- Dim ond pan fod popeth arall yn methu y dylai landlordiaid cymunedol droi allan deiliaid contract
- Mae rheolau ynghylch yr hyn y dylai landlord cymunedol ei wneud i osgoi eich troi allan
- Dylid rhoi gwybodaeth benodol i chi a chynnig help i’ch atal rhag colli eich cartref
Cyn dechrau achos llys i’ch troi allan, rhaid i landlordiaid cymunedol ddilyn rheolau a nodir mewn protocol cyn-gweithredu arbennig. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os oes gennych chi:
- contract diogel
- contract safonol rhagarweiniol
- contract ymddygiad gwaharddedig safonol
- contract safonol â chymorth gyda landlord cymunedol
- contract safonol os ydych yn byw mewn llety dros dro a ddarperir gan landlord cymunedol
Troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent
Os ydych mewn perygl o gael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun Breathing Space sy’n rhoi amser i chi gael rhywfaint o gyngor arbenigol ar ddyledion.
Cyn dechrau achos llys
Cyn i’ch landlord gymryd camau i’ch troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, dylai gysylltu â chi i siarad am:
- achos eich ôl-ddyledion
- eich amgylchiadau ariannol
- eich hawl i fudd-daliadau
- sut rydych yn bwriadu ad-dalu’r ôl-ddyledion
Dylech geisio dod i gytundeb gyda’ch landlord ynglŷn â thalu unrhyw ôl-ddyledion. Sicrhewch fod unrhyw beth y cytunwch yn fforddiadwy.
Os oes angen, dylai eich landlord eich helpu gydag unrhyw geisiadau am fudd-dal tai, costau tai credyd cynhwysol neu daliad tai yn ôl disgresiwn. Ni ddylai eich landlord gychwyn achos troi allan os:
- rydych wedi gwneud cais am un o’r budd-daliadau hyn
- mae’n debygol eich bod yn gymwys i gael taliad
- gallwch dalu unrhyw ôl-ddyledion sydd heb eu cynnwys gan fudd-dal tai, credyd cynhwysol neu daliad tai yn ôl disgresiwn
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, dylai eich landlord eich helpu i wneud cais i gael eich ôl-ddyledion wedi’u talu’n uniongyrchol o’r budd-daliadau hynny.
Dylai eich landlord anfon datganiad rhent chwarterol atoch yn nodi faint o rent sy’n ddyledus. Dylai’r datganiad nodi’r holl daliadau a dderbyniwyd, p’un a gafodd y rhain eu talu gennych chi, budd-dal tai neu daliad tai yn ôl disgresiwn. Dylai fod ganddo hefyd gyfanswm cyfredol clir o’r ôl-ddyledion.
Ar gyfer contract meddiannaeth ar y cyd, dylid cysylltu â phob un o’r cyd-ddeiliaid contract ar wahân i wneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o’r broblem.
Ar ôl rhoi hysbysiad i chi
Ar ôl rhoi hysbysiad i chi dylai eich landlord barhau i geisio cysylltu â chi i drafod eich ôl-ddyledion. Rhaid iddynt wneud hyn cyn dechrau achos llys.
Dylai eich landlord ohirio achos llys os byddwch yn cytuno i dalu eich rhent presennol a swm rhesymol tuag at eich ôl-ddyledion a’ch bod yn cadw at y trefniant hwn.
Unwaith y bydd achos llys wedi dechrau
Unwaith y bydd eich landlord wedi dechrau achos llys, o leiaf 10 diwrnod cyn y gwrandawiad llys, dylai eich landlord:
- rhoi datganiadau rhent cyfredol i chi
- rhoi rhybudd o ddyddiad y llys i chi, a dweud wrthych fod eich cartref mewn perygl os na fyddwch yn mynychu
- dweud wrthych beth maent yn ei wybod am unrhyw gais yr ydych wedi’i wneud am fudd-dal tai neu help gyda’ch costau tai o dan gredyd cynhwysol.
Deiliaid contract agored i niwed
Os ydych yn cael anhawster darllen neu ddeall gwybodaeth, dylai eich landlord geisio sicrhau eich bod yn deall y wybodaeth a roddir i chi am droi allan. Gallant wneud hyn, er enghraifft, trwy ei esbonio i chi yn fanylach neu ddarparu cyfieithydd.
Gofynnwch am help os ydych yn cael anhawster darllen neu ddeall y wybodaeth.
Os ydych yn arbennig o agored i niwed (er enghraifft yr henoed, yn anabl, neu’n dioddef o salwch meddwl) neu os ydych o dan 18 oed, efallai y bydd angen i’ch landlord:
- wneud cais i’r llys i rywun gael ei benodi i’ch cynrychioli yn y llys os na allwch amddiffyn eich hun. Gelwir y cynrychiolydd hwn yn ‘ffrind cyfreitha’.
- ystyried a ydych wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich oedran neu fregusrwydd
- ystyried a ddylech gael asesiad o anghenion gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Troi allan ar sail absoliwt
Os oes gennych chi contract safonol ragarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig efallai y bydd eich landlord yn ystyried eich troi allan gan ddefnyddio sail absoliwt (a elwir weithiau yn ‘orfodol’). Er enghraifft, mae hysbysiad ‘dim bai’ adran 173 neu hysbysiad ôl-ddyledion rhent difrifol ill dau yn seiliau absoliwt. Cyn dechrau unrhyw achos llys dylai eich landlord:
- ysgrifennu atoch yn egluro eu rhesymau dros ddymuno eich troi allan;
- rhoi cyfle i chi gyflwyno unrhyw amgylchiadau personol neu resymau eraill pam y dylech gael caniatâd i aros.
Os bydd eich landlord yn penderfynu parhau ag achos llys, dylai esbonio sut y mae wedi ystyried eich amgylchiadau personol a rhoi rhesymau ysgrifenedig pam ei fod wedi penderfynu parhau.
Beth os nad yw fy landlord yn dilyn y protocol cyn-gweithredu?
Efallai y bydd yn rhaid i’ch landlord esbonio i’r llys sut y mae wedi dilyn y protocol.
Os nad ydynt wedi gwneud popeth y dylent, gall y llys:
- ohirio (gohirio), dileu neu wrthod hawliad eich landlord – dim ond os yw’ch landlord yn ceisio eich troi allan ar sail ‘dewisol’ y gall hyn ddigwydd
- enderfynu bod yn rhaid i’ch landlord dalu costau llys – gall hyn ddigwydd hyd yn oed os rhoddir gorchymyn llys i’ch landlord i’ch troi allan.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 7, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.