Ers 1 Rhagfyr 2022, mae’r gyfraith ar rentu cartrefi yng Nghymru wedi newid. Mae gan bobl sy’n byw mewn llety dros dro hawliau cryfach mewn rhai sefyllfaoedd. Mae hyn yn dibynnu ar ba benderfyniad y mae’r cyngor yn ei wneud am eich cais digartrefedd a phwy yw eich landlord. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau cyngor ar-lein Shelter Cymru neu cysylltwch â ni.
Lluniwyd y canllaw hwn gan bobl sydd wedi bod trwy lety dros dro eu hunain; maent yn rhannu eu cyngor yn y gobaith o wneud eich profiad o lety dros dro ychydig yn haws.
CHI YW CHI O HYD
Mae ein cartrefi yn rhan bwysig o’n hunaniaeth a’n lle yn y byd. I rai pobl, gall cael eu rhoi mewn llety dros dro siglo eu hyder a gwneud iddynt deimlo’n ansefydlog. Gallai’r cyngor canlynol helpu gyda hyn:
- Cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Dywedwch wrthynt beth sy’n digwydd ac ymddiriedwch ynddynt gymaint ag y gallwch. Gall siarad â phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt fod o gymorth mawr.
- Cadwch at eich trefn arferol gymaint â phosibl; nid yw cael eich cartrefu yn rhywle dros dro yn golygu bod yn rhaid gohirio eich bywyd. Gall cynnal trefn eich helpu i gadw ymdeimlad o normalrwydd.
- Gofalwch amdanoch eich hun. Nid yw bob amser yn hawdd bwyta’n iach neu ymarfer corff yn rheolaidd, ond gwnewch yr hyn a allwch i ofalu am eich meddwl a’ch corff.
- Ceisiwch aros yn bositif. Gall fod yn anodd ar adegau, ond fe gyrhaeddwch chi yn y diwedd
DYDYCH CHI DDIM AR EICH PEN EICH HUN
Mae Llety Dros Dro yn realiti i lawer o bobl ledled y wlad. Gall cael eu rhoi mewn llety dros dro wneud pobl yn teimlo’n unig ac o dan straen; mae’n bwysig atgoffa eich hun mai DROS DRO yn unig yw hyn a chredu y bydd pethau’n gwella. Rhan allweddol o fynd drwy’r cyfnod hwn yw cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun. Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn eich ardal a all helpu; os gwelwch yn dda estynnwch allan, gofynnwch gwestiynau a darganfyddwch pa gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Byddwch yn drefnus. Nid oes lle i’ch holl eiddo bob amser pan fyddwch yn symud i lety dros dro. Labelwch focsys/bagiau a’u pacio fel y gallwch chi ddod o hyd i’r eitemau rydych chi’n eu defnyddio fwyaf yn hawdd.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod rheolau’r tŷ. Gall pobl gael eu dal allan, peidiwch â bod yn un ohonyn nhw. Beth bynnag rydych chi’n ei feddwl amdanyn nhw, dyma’r rheolau felly peidiwch â mynd yn groes iddynt.
Byddwch yn barod i gyd-fyw. Efallai y byddwch yn rhannu ceginau, ystafelloedd ymolchi a mannau cymunedol. Gall hyn achosi tensiwn, ond peidiwch â chynhyrfu a siaradwch â gweithwyr cymorth neu staff os bydd unrhyw sefyllfaoedd yn codi.
Tynnwch luniau. Os oes unrhyw ddifrod neu ddiffyg atgyweirio gweladwy, mynnwch dystiolaeth. Nid ydych am gael bil amdanynt yn ddiweddarach. Gall lluniau hefyd eich helpu i egluro pam fod rhywle yn anaddas.
Byddwch yn gall gyda’ch arian. Gall byw mewn llety dros dro fod yn ddrytach na byw yn rhywle mwy parhaol. Os yw pethau’n mynd yn anodd yn ariannol mae ffynonellau cymorth ar gael fel y Gronfa Cymorth Dewisol neu Taliadau Tai Dewisol. Darganfyddwch a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau neu grantiau a all eich helpu. Yn bwysicaf oll, os ydych yn mynd i ddyled, ceisiwch help.
Byddwch yn barod i symud yn gyflym. Gall y broses o ddod o hyd i lety parhaol fod yn araf, ond pan fydd pethau’n digwydd gallant symud yn gyflym. Cadwch ychydig o focsys yn sbâr – byddwch bob amser yn diweddu gyda mwy o ddarnau nag y byddech wedi meddwl. Chwiliwch am rifau ffôn ‘dyn fan wen’ a phan ddaw tŷ neu fflat ar gael, byddwch yn barod.
GALLWCH WNEUD HYN
Byddwch yn rhagweithiol. Cysylltwch â’ch swyddog tai yn rheolaidd, darganfyddwch beth sy’n digwydd gyda’ch achos a thrafodwch unrhyw broblemau. Peidiwch â bod ofn siarad os oes gennych gwestiwn neu gŵyn. Fodd bynnag, byddwch yn barchus a gwnewch eich pwynt yn gwrtais.
Cadwch ar ben eich budd-daliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newid mewn amgylchiadau. Peidiwch â bod ofn dilyn i fyny i wneud yn siwr bod newidiadau wedi’u gwneud.
Cadwch gofnodion. Gall pethau fynd ar goll neu fynd yn angof, felly cadwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch. Mynnwch dderbyneb neu lungopi o bob ffurflen y byddwch yn ei chyflwyno. Gallwch ddefnyddio’r llyfrgell i sganio dogfennau a’u cadw yn eich e-bost. Hefyd, cadwch nodyn o ddyddiadau, amseroedd ac enwau pobl fel y gallwch chi roi’r union wybodaeth am eich achos. Nid oes rhaid i bethau fod yn fanwl iawn i fod yn ddefnyddiol.
Cadw dogfennau yn ddiogel. Gwnewch yn siŵr bod eich gwaith papur yn ddiogel a gallwch gael hyd iddo pan fyddwch ei angen. Gall ychydig eiliadau o ffeilio arbed cur pen mawr i chi yn nes ymlaen.
Dewiswch eich brwydrau. Byddwch yn barod i gyfaddawdu gyda’r awdurdod lleol, gweithwyr cymorth a thenantiaid eraill. Does dim byd yn berffaith.
Peidiwch â digalonni. Daliwch i ganolbwyntio ar y ffaith mai rhywbeth dros dro yw hyn.
Peidiwch â bod â chywilydd. Gall anawsterau tai wir ddigwydd i unrhyw un.
Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau. Os nad ydych yn meddwl bod y llety sydd ar gael yn addas, gallwch ofyn i’r cyngor edrych ar y cynnig eto. Er mwyn cael ei ystyried yn addas, dylai llety fod o’r maint cywir ar gyfer eich haelwyd, mewn cyflwr digon da, yn addas i chi a’ch haelwyd fyw ynddo, yn fforddiadwy i chi, mewn lleoliad addas, yn sicr a diogel.
Peidiwch â gwrthod cynnig heb gael cyngor oherwydd efallai na fydd yn rhaid i’ch cyngor roi rhagor o help i chi.
CAEL CEFNOGAETH
Nid ydych chi ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi neu’ch teulu’n dioddef, siaradwch â rhywun. Mae yna sefydliadau ar gael a all helpu os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg. Mae rhai rhifau ffôn defnyddiol ar ddiwedd y dudalen hon.
Mae’n well delio â phethau cyn gynted â phosibl.
Rhifau Defnyddiol
Mae Shelter Cymru yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel, oherwydd cartref yw popeth. Maen nhw’n helpu miloedd o bobl ledled Cymru bob blwyddyn sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng tai drwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim.
Llinell gymorth: 08000 495 495
Gwefan: sheltercymru.org.uk/get-advice
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim. Gallant helpu gyda nifer o faterion gan gynnwys arian, budd-daliadau, tai neu broblemau cyflogaeth.
Llinell gymorth: 03444 77 20 20
Gwefan: citizensadvice.org.uk/wales/about-us/ contact-us/contact-us/contact-us
CALL: Llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru yw’r Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol, sy’n darparu cymorth emosiynol, atgyfeirio at asiantaethau a thaflenni hunangymorth am ddim.
Llinell gymorth: 0800 132 737 Neu tecstiwch “HELP” i 81066
Gwefan: callhelpline.org.uk
Mae’r Samariaid yn wasanaeth ffôn cyfrinachol am ddim sydd ar gael 24/7 i unrhyw un sydd angen siarad am yr hyn sy’n digwydd, sut maen nhw’n teimlo a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain ymlaen. Llinell Gymorth: 116 123 (24/7) Cymraeg: 0808 164 0123 (rhwng 7pm a 11pm yn unig, 7 diwrnod yr wythnos)
Gwefan: samaritans.org/wales/samaritans-cymru
Gall Dewis Cymru eich helpu i ddod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol a all ddarparu cymorth.
Gwefan: dewis.wales
Lawrlwythwch Canllaw Goroesi Llety Dros Dro
Cliciwch i lawrlwytho eich copi o’r Canllaw Goroesi Llety Dros Dro, yn Gymraeg neu Saesneg.