Shelter Cymru yn helpu pobl dros 50 oed

Fore dydd mercher cynhaliodd Shelter Cymru ddigwyddiad rhwydweithio yn Neuadd y Frenhines yn Arberth i godi ymwybyddiaeth o wasanaeth arbenigol a gynigir gan yr elusen yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Mae prosiect Cyngor 50+ Advice yn cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr ac mae wedi’i deilwra i gynorthwyo pobl dros 50 oed yn y ddwy sir.

Mynychwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr ar draws Sir Benfro i ddysgu mwy am y prosiect penodol hwn a beth mae wedi’i gyflawni mor belled.  Ers mis Mawrth 2015 mae’r cynllun wedi cynorthwyo dros 300 o bobl yn y ddwy sir.  Yn ogystal â hynny, mae’r prosiect wedi helpu i osgoi digartrefedd mewn 80 o’r achosion hynny drwy gynyddu incwm a helpu i herio penderfyniadau budd-dâl a oedd yn cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch cartref rhywun.

Meddai Kelly White, Cyd-lynydd Prosiect  Cyngor 50+ Advice “Mae pobl yn gallu cael eu heffeithio gan newidiadau i’w hamgylchiadau ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ond rydym wedi darganfod bod pobl hŷn yn aml yn llai ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael neu i ofyn am help.  Wrth i bobl fynd yn hŷn, maent yn aml yn edrych ar eu hangenion tai ac yn ystyried a fydd eu cartref yn addas, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn y dyfodol”

Mae’r prosiect yn gallu helpu unrhywun dros 50 mlwydd oed yn Sir Benfro sydd yn wynebu argyfwng tai drwy gynorthwyo pobl i wynebu unrhyw broblemau cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng.  Ers ei sefydlu yn 2012 mae’r prosiect wedi cynorthwyo bron i 500 o bobl gyda phroblemau fel dyledion rhent, dyledion morgais, rheoli dyled ac effeithiau’r newidiadau i’r system les.

Gall y prosiect Cyngor 50+ Advice hefyd gynnig prawf iechyd ariannol gyda defnyddwyr y gwasanaeth sydd yn edrych a oes potensial i gynyddu incwm neu leihau costau cadw cartref fel y gall pobl ddeall os a ble gall arbedion gael eu gwneud, yn ogystal â sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw fudd-daliadau neu gefnogaeth sydd yn ddyledus iddynt.

Mae help ar gael mewn nifer o syrjeris ar draws Sir Benfro lle mae ymgynghorwyr arbenigol wrth law i helpu gyda phryderon, a chefnogi pobl drwy unrhyw newidadau mae’n rhaid iddyn  nhw eu gwneud.

Ychwanegodd Kelly White “Gallwn weithio ar draws unrhyw fath o eiddo ac rydym hefyd yn gallu ymweld â phobl yn eu cartrefi os oes unrhywun yn methu cyrraedd ein syrjeris.  Mae prosiect Cyngor 50+ Advice wedi’i gynllunio i helpru bobl dros 50 oed yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a gobeithiwn y gall y cynllun estyn allan i mwy o bobl nag erioed sydd mewn angen tai dros y flwyddyn sydd i ddod”

Yn ogystal â hyn roedd ffocws clir yn ystod y digwyddiad ar y cyfraniad a wneir gan wirfoddolwyr i’r prosiect ac i Shelter Cymru fel sefydliad.  Mae gwirfoddolwyr prosiect Cyngor 50+ Advice yn ymwneud â phob agwedd o’r gwaith yn symud y prosiect ymlaen ac yn cynnig cefnogaeth ymarferol i bobl yn y syrjeris.

Meddai Kelly White “Mae gwirfoddlowyr wedi cyfrannu 500 awr i’r prosiect ers Mawrth 2015 ac mae eu hymrwymiad i amcanion y prosiect yn aruthrol.  Mae eu gwaith yn hanfodol i lwyddiant y prosiect wrth estyn allan i gyrraedd pobl o fewn ein cymunedau”

I wneud apwyntiad neu i siarad â rhywun o staff y prosiect ynglyn â Cyngor 50+ Advice neu i gynnig gwirfoddoli gyda’r prosiect yna cysylltwch â’r gwasanaeth ar 01554 899371 neu [email protected]