Our successes
Mae ein cefnogwyr ymgyrchoedd wedi’n helpu ni i gyflawni pethau mawr. O arwyddo deisebau, i ebostio Aelodau Cynulliad, ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol a chymryd rhan mewn siopa cudd, mae ymgyrchu gyda’n gilydd yn hanfodol i ni i ddod â digartrefedd i ben. Rhowch eich llais tu nôl i’r miloedd o bobl eraill yng Nghymru sy’n ein cefnogi ac ystyriwch gyfrannu yma.
Ein Llwyddiannau diweddaraf
Dod â dadgartrefu ‘heb fai’ i ben
Yng Nghymru mae o leiaf 24% o denantiaid heb gytundeb tenantiaeth tymor penodol. Golyga hyn eu bod mewn perygl o gael eu troi allan ‘heb fai’, sy’n golygu y gall landlord eu dadgartrefu heb orfod rhoi rheswm, gyda rhybudd o ddau fis yn unig.
Yn ein brwydr i roi mwy o sicrwydd i denatiaid yng Nghymru, lluniwyd deiseb, lobïwyd Aelodau Cynulliad, galwyd ar awdurdodau lleol i gefnogi’r ymgyrch a thanlinellwyd y mater yn y cyfryngau.
O ganlyniad i’n hymgyrchu, yng ngwanwyn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i ddod â dadgartrefu ‘heb fai’ i ben. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnig diwygiedig, maen nhw’n honni y bydd yn ei gwneud hi’n haws i’w gyflawni cyn yr etholioad nesaf yng Nghymru yn 2021.
Bydd y cynnig ddim yn dod â dadgartrefu ‘heb fai’ i ben ond yn ei gwneud hi’n anoddach i’w weithredu, drwy gynyddu’r cyfnod rhybudd o ddau fis i chwech mis. Bydd hyn yn golygu mewn gwirionedd y bydd gan denantiaid sicrwydd tenantiaeth o flwyddyn gyfan.
Rydym ar hyn o bryd yn aros i’r Bil ger ei roi gerbron y Senedd.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen ymgyrchoedd gyda mwy o wybodaeth wrth i’r datblygiadau ddigwydd.
Gosod Gonest – gwahardd ffioedd gosod i denantiaid
Dechreuom ymgyrchu ym mis Mawrth 2016 i wahardd ffioedd asiantaethau gosod yng Nghymru. Gwnaeth ein cefnogwyr ymgyrchoedd ymarfer siopa cudd a chanfuwyd bod nifer o’r asiantaethau yn anwybyddu’r gyfraith gyda dros hanner yr asiantaethau ddim yn dilyn y gofynion cyfreithiol i arddangos eu ffioedd yn eglur. Gwnaeth ein cefnogwyr arwyddo deiseb a chyflwynwyd hon i’r Senedd.
Diolch i’n hymgyrchu ni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru waharddiad ar ffioedd gosod annheg. Daeth y gwaharddiad i rym ar Fedi’r 1af 2019.
Gwariwch neu fe Gollwch – gwneud y mwyaf o Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Nôl ym mis Chwefrof 2017 lansiwyd ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP), ffynhonnell bwysig o gymorth ariannol i bobl sy’n cael trafferth talu eu rhent. Mae’r arian yn cael ei roi bob blwyddyn i gynghorau Cymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Penderfyniad y cynghorau yw dosbarthu’r arian i’r bobl sydd ei angen, a mae’n rhaid dychwelyd y cyllid i’r Llywodraeth os nad ydyw wedi cael ei wario erbyn diwedd mis Mawrth.
Er bod nifer o gynghorau wedi gweithio’n ddiwyd i wario’r arian, roedd nifer yn danfon arian nôl bob blwyddyn. Roedd cannoedd o filoedd o bunnoedd yn cael eu gwastraffu felly fe wnaethom ni gamu i’r adwy er mwyn sicrhau bod cynghorau yn gwneud y mwyaf o’r cyllid hanfodol hwn. Aethom ati i rannu arfer gorau gyda’r cynghorau a rhoesom wybod i’r cyhoedd am y gwariant gwastraff. Yn
2017 danfonodd y cynghorau bron i £300,000 nôl. Ar ôl dwy flynedd o ymgyrchu, dim ond £773 a ddanfonwyd nôl!
Darganfyddwch mwy am ein hymgyrch sy’n parhau yma