Skip to main content

Beth yw digartrefedd?

Efallai eich bod yn ddigartref os ydych yn cysgu allan, os nad oes gennych yr hawl i aros lle rydych chi neu os ydych yn byw mewn tŷ anaddas. Hyd yn oed os oes gennych do uwch eich pen gallwch fod yn ddigartref o hyd.

Pa sefyllfaoedd sy’n golygu eich bod yn ddigartref?

Nid oes rhaid i chi fod yn cysgu allan i gael eich ystyried yn ddigartref. Gallech hefyd fod yn ddigartref yn gyfreithiol os ydych yn:

  • Aros dros dro gyda ffrindiau neu deulu
  • Aros mewn hostel neu wely a brecwast
  • Byw mewn amodau gorlawn iawn
  • Mewn perygl o drais neu gamdriniaeth yn eich cartref
  • Byw mewn amodau gwael sy’n effeithio ar eich iechyd neu bod eich cartref ddim yn ffit i fyw ynddo
  • Byw yn rhywle nad oes gennych hawl gyfreithiol i aros ynddo (ee sgwat)
  • Byw yn rhywle na allwch fforddio talu amdano heb amddifadu eich hun o hanfodion sylfaenol
  • Cael eich gorfodi i fyw ar wahân i’ch teulu, neu rywun y byddech fel arfer yn byw gyda nhw, oherwydd nad yw eich llety’n addas.

Pwy all fod yn ddigartref?

Gall unrhyw un fod yn ddigartref. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau o bobl yn fwy agored i ddigartrefedd oherwydd bod ganddynt lai o hawliau, anghenion penodol neu eu bod yn llai abl i ymdopi ar eu pen eu hunain. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Pobl ifanc yn gadael cartref am y tro cyntaf
  • Hen bobl
  • Merched beichiog
  • Pobl â phlant
  • Pobl â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol
  • Pobl ar fudd-daliadau neu incwm isel
  • Pobl sy’n gadael gofal
  • Cyn-garcharorion
  • Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
  • Pobl yr effeithir arnynt gan argyfwng fel llifogydd neu dân.

Sut mae pobl yn dod yn ddigartref?

Gallech ddod yn ddigartref am lawer o wahanol resymau. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Cael eich troi allan gan eich landlord
  • Colli eich swydd
  • Problemau iechyd
  • Problemau perthynas
  • Trychineb fel tân neu lifogydd.

Sut gall cynghorydd helpu?

Os ydych yn ddigartref, neu’n poeni am ddod yn ddigartref, dylech gael cyngor cyn gynted ag y gallwch. Efallai y gall cynghorydd eich helpu i ddod o hyd i ffordd o aros yn eich cartref, dod o hyd i gartref newydd yn gyflymach neu gysylltu â’ch cyngor lleol.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r adran tai cyngor eich helpu os ydych yn ddigartref, neu mewn perygl o golli eich cartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf. Bydd pa gymorth y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn rhaid i’r cyngor roi cyngor a chymorth i chi yn gynnar yn y broses. Efallai y bydd yn rhaid iddo eich helpu i ddod o hyd i gartref, neu mewn rhai sefyllfaoedd, eich helpu i gadw eich cartref presennol. Mewn achosion eraill, efallai y bydd gan y cyngor ddyletswydd i sicrhau y darperir cartref i chi. I gael rhagor o fanylion am y cymorth y gallwch ei gael gan y cyngor, cliciwch yma.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 26, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.