Skip to main content

Ceiswyr lloches

Os ydych yn geisiwr lloches, yn ffoadur neu’n apelio yn erbyn cais aflwyddiannus am loches, efallai y bydd gennych hawl i lety â chymorth.

I gael gwybodaeth fanylach, bydd angen i chi siarad â chynghorydd arbenigol. Cysylltwch ag un o’r canlynol am fwy o gefnogaeth a gwybodaeth:

Os ydych yn ceisio lloches

Os nad ydych wedi gwneud cais am loches yn y DU eto, dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl. Darllenwch fwy gan Gov.uk am wneud cais am loches.

Cefnogaeth lloches

Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn ac yn ceisio lloches yn y DU efallai y bydd gennych hawl i lety a/neu arian gan y Llywodraeth i helpu gyda’ch costau byw. Gelwir hyn yn gymorth lloches. Ffoniwch 0808 8010 503 i wneud cais.

Gall Migrant Help eich helpu gyda’ch cais am gymorth lloches. Ffoniwch y llinell gymorth am ddim ar 0808 8010 503.

Pobl ifanc

Os ydych o dan 18 oed, ac wedi cyrraedd y DU heb oedolyn, dylech allu cael cymorth brys gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Dylent ddarparu llety, bwyd, dillad a chefnogaeth gyda’ch cais am loches.

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Hawlio Lloches yng Nghymru sydd ar gael mewn nifer o ieithoedd gwahanol.

Gallech hefyd edrych ar y wefan Gwybodaeth Hawliau Tai am ragor o gyngor.

Os penderfynwyd ar eich cais am loches

Os oedd eich cais am loches yn llwyddiannus

Rydych chi’n ffoadur a bydd gennych lawer o’r un hawliau â dinasyddion Prydeinig.

Mae llety cymorth lloches fel arfer yn dod i ben 28 diwrnod ar ôl i’r Swyddfa Gartref roi eich statws ffoadur, felly mae’n bwysig eich bod chi’n dod o hyd i rywle i fyw.

Fel ffoadur mae gennych yr hawl i wneud cais i’r cyngor am help os byddwch yn dod yn ddigartref ac am dŷ cyngor. Mae eich hawliau’n dibynnu ar ba statws a roddwyd i chi (hy statws ffoadur, caniatâd amhenodol i aros, amddiffyniad dyngarol neu ganiatâd dewisol i aros). Os bydd y cyngor yn gwrthod eich helpu, ffoniwch linell gymorth Shelter Cymru am gyngor brys.

I gael help i dalu’r rhent, mae angen i chi wneud cais am gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai. Rhaid i chi wneud cais am rif Yswiriant Gwladol cyn y gallwch hawlio budd-daliadau.

Os byddwch yn penderfynu rhentu gan landlord preifat, fel arfer byddant yn gofyn am flaendal a rhent ymlaen llaw cyn y byddant yn cynnig tenantiaeth i chi. Gofynnwch i’r cyngor a allant helpu gyda hyn.

Efallai y cewch help trwy:

Efallai y byddwch hefyd yn cael help gyda bwyd, dillad a gwres gan y Gronfa Cymorth Dewisol.

Os cafodd eich cais am loches ei wrthod

Rydych yn geisiwr lloches a wrthodwyd – bydd eich cymorth lloches yn dod i ben ac mae gennych opsiynau cyfyngedig iawn. Ceisiwch gyngor arbenigol cyn gynted â phosibl. Mae gan y wefan Hawliau Tai gyngor defnyddiol os ydych yn y sefyllfa hon.

Yn dibynnu ar ble rydych chi yng Nghymru, efallai y gallwch gael help gan aelod o NACCOM (The No Accommodation Network).

Mae gan y Rhwydwaith Dim Mynediad i Gronfeydd Cyhoeddus declyn ar-lein i’ch helpu i ganfod a oes unrhyw help ar gael i chi. Cliciwch yma i gychwyn yr offeryn (efallai y bydd angen cynghorydd arnoch i’ch helpu i wneud hyn).

Ble i geisio cymorth

Ffoniwch ein llinell gymorth neu ewch i gyngor yn eich ardal chi i ddod o hyd i syrjeri cyngor lleol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd arbenigol neu gyfreithiwr os oes angen un arnoch.

Mae gan Cyngor ar Bopeth ganolfannau cyngor ledled y wlad, a gallant helpu gyda llawer o wahanol broblemau, gan gynnwys budd-daliadau, a dyled. Mae eu gwasanaethau am ddim.

Os oes angen cyngor arnoch yn ymwneud â’ch cais am loches, gallech gysylltu â:

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 27, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.