Os gwnaethoch ddechrau rhentu eich cartref gan landlord preifat cyn 1 Rhagfyr 2022 mae’n debyg bod gennych gontract safonol wedi’i drosi
Mae’r math o gontract safonol wedi’i drosi sydd gennych yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth a oedd gennych cyn 1 Rhagfyr 2022
Pa fath o gontract wedi’i drosi sydd gennyf?
Os dechreuodd eich tenantiaeth gyda landlord preifat cyn 1 Rhagfyr 2022 mae gennych bellach gontract meddiannaeth wedi’i drosi.
Mae 2 fath gwahanol o gontractau wedi’u trosi y gallwch eu cael gyda landlord preifat. Dyma nhw:
- contract safonol cyfnod penodol wedi’i drosi
- contract safonol cyfnodol wedi’i drosi
Ni ddaeth rhai cytundebau rhentu yn gontractau meddiannaeth ar 1 Rhagfyr 2022. Er enghraifft, os ydych yn byw yng nghartref eich landlord ac yn rhannu lle byw, ni fydd gennych gontract meddiannaeth.
Darganfyddwch fwy am yr eithriadau hyn yma.
Mae’r math o gontract sydd gennych yn dibynnu ar ba fath o denantiaeth oedd gennych cyn 1 Rhagfyr 2022. Cliciwch ar y ddolen isod sy’n berthnasol i chi.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 28, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.