- Os oes gennych gontract safonol rhagarweiniol byddwch yn dod yn ddeiliad contract diogel ar ôl 12 mis oni bai bod y cyfnod rhagarweiniol yn cael ei ymestyn.
- Rhaid i’ch landlord ddilyn y drefn gywir i ymestyn eich cyfnod rhagarweiniol
- Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod rhagarweiniol
Os symudoch chi i’ch cartref cyn 1 Rhagfyr 2022 nid yw’r wybodaeth isod yn berthnasol i chi. Ewch i’n hadran cyngor ar gontractau wedi’u trosi.
Mae’r dudalen hon yn egluro beth sy’n rhaid i landlord cymunedol ei wneud i ymestyn cyfnod rhagarweiniol contract meddiannaeth safonol rhagarweiniol. Mae’n ymdrin â sut mae’n rhaid eich hysbysu a’ch hawl i ofyn am adolygiad.
Nid yw’n esbonio’ch hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gennych chi a’ch landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol. Am wybodaeth am hyn, cliciwch yma.
Pryd y byddaf yn dod yn ddeiliad contract diogel?
Byddwch yn dod yn ddeiliad contract diogel yn awtomatig ar ôl 12 mis, oni bai bod eich landlord:
- dechrau gweithredu i’ch troi allan yn ystod y cyfnod o 12 mis, neu
- yn penderfynu ymestyn eich cyfnod rhagarweiniol am 6 mis arall.
Os gwnaethoch dreulio amser fel deiliad contract rhagarweiniol mewn eiddo arall yn union cyn i’ch contract presennol ddechrau, dylai’r amser y gwnaethoch ei dreulio yno gyfrif tuag at y 12 mis. Os buoch yn byw yno am fwy na blwyddyn, dylech gael contract diogel ar unwaith.
Sut gall fy landlord ymestyn y cyfnod rhagarweiniol?
Gall eich landlord ymestyn eich cyfnod rhagarweiniol am 6 mis pellach drwy roi hysbysiad o estyniad i chi (a elwir hefyd yn ffurflen RHW34). Gall y cyfnod rhagarweiniol bara hyd at 18 mis.
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad:
- cael ei roi i chi o leiaf 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol o 12 mis cyntaf
- rhoi rhesymau pam mae’r landlord eisiau ymestyn y cyfnod rhagarweiniol
- dweud wrthych fod gennych hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad eich landlord.
Os nad ydych yn cytuno y dylid ymestyn eich cyfnod rhagarweiniol, gallwch ofyn i’ch landlord edrych ar y penderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘gofyn am adolygiad’ Os ydych am ofyn am adolygiad mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn 14 diwrnod i gael yr hysbysiad o estyniad. Gofynnwch am adolygiad ysgrifenedig bob amser er mwyn osgoi problemau yn ddiweddarach
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn adolygiad, gweler ein tudalen Herio penderfyniad landlord cymunedol.
A all fy landlord fy nhroi allan yn ystod y cyfnod rhagarweiniol?
Oes, ond mae’n rhaid i’ch landlord ddilyn y drefn gywir. Os ydynt am eich troi allan mae’n rhaid iddynt roi hysbysiad i chi ac, ar ôl i chi dderbyn yr hysbysiad, bydd gennych hawl i ofyn i’ch landlord adolygu ei benderfyniad i’ch troi allan.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cyngor ar droi allan deiliaid contract safonol rhagarweiniol.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 28, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.