Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad landlord cymunedol, efallai y byddwch chi’n gallu gofyn i’r landlord neu’r llys sirol edrych arno eto. Gelwir hyn yn ‘ofyn am adolygiad’.
Pa benderfyniadau y gall landlordiaid cymunedol eu hadolygu?
Mae gennych chi’r hawl i ofyn i’ch landlord adolygu eu penderfyniadau i:
- ymestyn cyfnod cyflwyniadol contract safonol cyflwyniadol
- ymestyn cyfnod prawf contract safonol ymddygiad gwaharddedig
- rhoi hysbysiad ‘dim bai’ neu hysbysiad ôl-ddyledion rhent difrifol i ddod â chontract safonol cyflwyniadol i ben
- rhoi hysbysiad ‘dim bai’ neu hysbysiad ôl-ddyledion rhent difrifol i ddod â chontract safonol ymddygiad gwaharddedig i ben
Sut ydw i’n gofyn am adolygiad?
Os oes gennych chi hawl i adolygiad, fel arfer mae’n rhaid i chi ofyn am yr adolygiad o fewn 14 diwrnod i dderbyn y penderfyniad, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gweithredu’n gyflym. Bydd y dyddiad yn dechrau o’r dyddiad y byddwch chi’n derbyn y llythyr, nid y dyddiad sydd wedi’i argraffu ar y llythyr. Mae bob amser yn syniad da cadw’r llythyr a’r amlen rhag ofn y bydd unrhyw anghydfod ynghylch pryd y gwnaethoch chi ei dderbyn.
Lle bo modd, mae bob amser yn well gofyn am unrhyw adolygiad yn ysgrifenedig a chadw copi o’r llythyr.
Os ydych chi eisiau gofyn am adolygiad ar ôl i 14 diwrnod fynd heibio, ceisiwch gymorth ar unwaith. Bydd yn rhaid i’ch landlord benderfynu a ddylid derbyn cais hwyr felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n egluro’r rhesymau pam na ofynnoch chi am yr adolygiad o fewn y 14 diwrnod.
Mae bob amser yn well cael cyngor cyfreithiol os ydych chi eisiau gofyn am adolygiad. Cysylltwch â Shelter Cymru am gymorth a chyngor.
Beth fydd yn digwydd yn ystod yr adolygiad?
Unwaith y bydd eich landlord yn derbyn cais am adolygiad, rhaid iddo ysgrifennu atoch a gofyn i chi anfon rhagor o wybodaeth ategol. Dylech gael o leiaf 5 diwrnod i wneud hyn. Dyma’ch cyfle i roi mwy o wybodaeth i’ch landlord am eich sefyllfa a’r rhesymau pam eich bod chi’n anghytuno â’u penderfyniad.
Efallai y bydd eich landlord yn delio â’r adolygiad trwy edrych ar yr holl ddogfennau ond, os yw’n well gennych, gallwch ofyn i’r adolygiad gael ei gynnal trwy wrandawiad, neu gallwch gytuno iddo gael ei wneud yn rhithwir (er enghraifft trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn).
Os yw’r adolygiad i gael ei drin drwy wrandawiad, dylai eich landlord ysgrifennu atoch gyda manylion ble y caiff ei gynnal a rhoi o leiaf 10 diwrnod o rybudd i chi. Gallwch fynd â rhywun gyda chi i’r gwrandawiad i’ch helpu a gofyn cwestiynau os ydych chi eisiau.
Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal gan rywun nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.
Sut byddaf yn cael gwybod am benderfyniad yr adolygiad?
Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, dylai eich landlord ddweud wrthych am y penderfyniad y mae wedi’i wneud. Os yw’r penderfyniad yn anffafriol, dylent ysgrifennu atoch a dweud wrthych y rhesymau dros y penderfyniad.
Os yw canlyniad yr adolygiad yn dal i ymestyn contract safonol cyflwyniadol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, yna rhaid i’r llythyr hefyd ddweud wrthych y gallwch wneud cais i’r llys am adolygiad pellach o fewn 14 diwrnod.
Os ydych chi’n credu bod penderfyniad yr adolygiad yn anghywir neu os na chewch lythyr penderfyniad erbyn i’r cyfnod cyflwyniadol neu brawf gwreiddiol ddod i ben, ceisiwch gymorth. Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am adolygiad llys sirol.
Gofyn i’r llys sirol am adolygiad
Gall llys sirol adolygu rhai penderfyniadau landlord cymunedol. Dyma nhw:
- penderfyniad adolygu sy’n cadarnhau estyniad contract safonol rhagarweiniol
- penderfyniad adolygu sy’n cadarnhau estyniad cyfnod prawf contract safonol ymddygiad gwaharddedig
- penderfyniad i gyflwyno ‘hysbysiad adran 13’ yn eich hysbysu bod gennych gontract safonol
- penderfyniad i beidio â rhoi contract safonol â chymorth mewn llety â chymorth
- penderfyniad gan landlord cymunedol neu landlord preifat i wrthod rhoi caniatâd i wneud rhai pethau a ganiateir gan y contract (e.e. ychwanegu cyd-ddeiliad contract)
Rhaid gwneud y rhan fwyaf o geisiadau llys o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad felly mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth yn gyflym os ydych chi am wneud hyn. Dim ond os oes gennych chi reswm da dros golli’r dyddiad cau y byddwch chi’n cael gwneud cais i’r llys ar ôl 14 diwrnod.
Os oes gennych chi gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, gallwch chi hefyd wneud cais i ddod â’r cyfnod prawf i ben yn gynnar os ydych chi’n credu nad oes angen y math hwn o gontract mwyach, neu os nad ydych chi wedi cael cynnig cymorth mewn perthynas ag atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall gwneud cais i’r llys yn y sefyllfaoedd uchod fod yn gymhleth felly ceisiwch gymorth bob amser os ydych chi’n ystyried gwneud hyn.
Gofyn am adolygiad gan lys sirol yn ystod achos troi allan
Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn i’r llys sirol adolygu’r penderfyniad i’ch troi allan. Mae hyn yn berthnasol os:
- mae gennych gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig ac rydych yn cael eich troi allan gan ddefnyddio’r weithdrefn ‘dim bai’
- mae gennych gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig ac rydych yn cael eich troi allan am ôl-ddyledion rhent difrifol
- rhoesoch rybudd i ddod â’r contract i ben ond ni symudoch allan ac mae’ch landlord cymunedol yn hawlio meddiant
- mae gennych fath arall o gontract safonol gyda landlord cymunedol ac rydych yn cael eich troi allan gan ddefnyddio hysbysiad ‘dim bai’ neu am ôl-ddyledion rhent difrifol
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 29, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.