Skip to main content

Rhentu gan landlord preifat

Dolenni cyflym rhentu gan landlord preifat:

Os yw’ch landlord yn gymdeithas dai neu’n gyngor lleol, yna mae gennych chi landlord cymunedol. Darllenwch am landlordiaid cymunedol yma.

Mae pob landlord arall yn cael ei ddosbarthu fel landlordiaid preifat. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn llety prifysgol, neu dai a ddarperir gan eich cyflogwr, yna byddent yn cael eu hystyried yn landlord preifat.

Mae’r rhan fwyaf o gytundebau rhentu a roddir gan landlordiaid preifat yn gontractau meddiannaeth safonol. Mae dau brif fath o gontract meddiannaeth safonol:

  • Contractau safonol cyfnod penodol – mae hyn yn golygu bod eich contract yn para am gyfnod penodol o amser (ond ni allwch gael eich troi allan ar ddiwedd y cyfnod penodol heb orchymyn llys), a;
  • Contractau safonol cyfnodol – mae hyn yn golygu nad oes gan eich contract ddyddiad terfyn, ond ei fod yn cael ei symud ymlaen gyda phob cyfnod rhentu.

Mae yna rai sefyllfaoedd lle gallai fod gennych chi fath gwahanol o gytundeb rhentu. Er enghraifft, os ydych yn rhannu rhai rhannau o’r llety gyda’ch landlord efallai na fydd gennych gontract safonol.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract sydd gennych, gofynnwch am help.

Cymerwch olwg ar yr opsiynau isod i ddarganfod mwy.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 12, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.