Dyna ni oddi wrth Bobl a Chartrefi, tan y flwyddyn nesaf.
Dydd Iau diwethaf cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Shelter Cymru yn Stadiwm Liberty yn Abertawe lle clywyd yr araith gyntaf ar dai gan Carl Sargeant AC yn ei rôl newydd fel Ysgrifennydd Cabinet ar Gymunedau a Phlant. Roedd tua 130 o fynychwyr yn cynrychioli’r sector tai ar draws Cymru yn y gynhadledd eleni a oedd yn nodi 35ain mlynedd Shelter Cymru o weithio i atal dogartrefedd.
Nododd y Gweinidog bod mynd i’r afael â’r broblem diangen ac ataliadwy o ddigartrefedd yn flaenoriaeth allweddol, a dywedodd ei fod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i gesio datrys y broblem. Ef hefyd bydd yn arwain rhaglen maniffesto Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn nhymor presennol y Cynulliad. Dywedodd:
“Mae sicrhau bod gan bobl gartref diogel a chynnes yn dal yn flaenoriaeth a dyna pam rydym wedi ymrwymo i’r targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 pellach o dai fforddiadwy. Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y maes hwn ond rydym am wneud mwy”.
Bu’r gynhadledd yn fodd i adlewyrchu ar ddatblygiadau cadarnhaol y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys deddfwriaeth tai arloesol a gwell rheoleiddio o ran y sector rhentu preifat, ac roedd y Gweinidog yn awyddus i wneud cynnydd wrth leihau’r nifer o bobl ifanc sy’n cael eu gosod mewn llety dros dro.
“Rydw i’n falch” meddai “bod mwy na hanner yr Awdurdodau Lleol bellach ddim yn defnyddio llety Gwely a Brecwast i bobl ifanc, ond rydw i o’r farn bod mwy y gallwn ni ei wneud i ddod o hyd i ffordd arall i osgoi gorfod danfon pobl ifanc i lety filltiroedd bant o’u teulu, ffrindiau a lleoliadau addysg a hyfforddiant”
Roedd pobl allweddol o’r sector tai yn y gynhadledd yn annerch ac yn cadeirio sesiynau drwy gydol y dydd yn cynnwys, Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd mewn Tai ym Mhrifysgol Caerdydd; Sue Heath, Athro Cymdeithaseg, Prifysgol Manceinion a Michael Simon, Cydlynydd Datblygu Cymunedol ar gyfer prosiect adfywio Granby Four Streets a enillodd Wobr Turner yn 2015.
Yn ystod yr egwyl ginio, cafodd y mynychwyr gyfle i weld yr arddangosfa a oedd yn cynnwys stondinau gan wahanol sefydliadau fel Cymorth i Ferched Cymru, Y Wallich a Tenantiaid Cymru, yn ogystal â’r cyfle i wylio fideo a grewyd gan aelodau prosiect “Daliwch Sylw” Shelter Cymru – lle mae pob aelod wedi profi digartrefedd – yn herio’r rhagfarn yn erbyn pobl digartref a’r rhesymau tu nôl i ddigartrefedd.
Un o’r mynychwyr, a chadeirydd sesiwn prynhawn ar weithredu ar dai ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd Rob Gershon, blogiwr ar dai @Simplicity. Siaradodd am ffyrdd anrhaddodiadol o ddylanwadu ar bolisi yn y sector dai yn y DU, ac roedd ei adborth ef ar y gynhadledd yn gadarnhaol iawn gan orffen gyda’r dyfyniad isod:
“Roedd nifer o’r bobl siaradais i â nhw yng nghynhadledd flynyddol Shelter Cymru yn disgwyl i’r enghraifft o atal digartrefedd sydd yn amlwg yn gweithio yng Nghymru i gael ei allforio, a’i weithredu, yn Lloegr. Efallai y bydd hyn yn hau’r had ar gyfer rhywbeth a all dyfu i herio’r amcanion polisi presennol o fuddsoddi arian mewn tai i bobl sy’n gallu eu fforddio ar draul y rhai hynny sydd yn methu.
Cadeiriwyd y gynhadledd gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, a rannodd ei phrofiad fel Aelod o Fwrdd Shelter Cymruyn y gorffennol, a’r dylanwad a gafodd y sefydliad arni fel eiriolwr dros ddigartrefedd, a Daran Hill, Rheolwr Gyfarwyddwr Positif Politics a oedd yn cadeirio’r ddadl fywiog ar ddiwedd y gynhadledd “Digartrefedd yng Nghymru – beth nesaf?” pan gafodd y mynychwyr gyfle i gymryd rhan mewn pleidlais fyw.
Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru “Mae Cymru yn gynyddol yn cael ei gweld fel grym arweiniol ym maes atal digartrefedd. Drwy gydol y dydd rydym wedi clywed syniadau newydd a safbwyntiau newydd. Yn ôl yr arfer mae ein ffocws ar bobl ac rydym wedi clywed gan ymgrychwyr a thenantiaid sydd yn angerddol o ymrwymedig i greu gwell dyfodol i Gymru”.
Os fethoch chi’r gynhadledd eleni yna gwnewch yn siwr eich bod yn archebu eich lle ymlaen llaw ar gynhadledd flynyddol Shelter Cymru 2017 drwy gysylltu â’r tîm hyfforddi ar 01792 483072 neu drwy ebost ar [email protected]