Mae Nazia yn fam sengl ac fe’i rhoddwyd mewn llety dros dro gyda’i thri phlentyn.
Roedd lleoliad Nazia yn anaddas i’w mab ifanc ac roedd hi’n poeni bod ei orfywiogrwydd yn cynhyrfu’r cymdogion.
“Rwy’n fam sengl gyda thri o blant. Arhosais am bum neu chwe wythnos. Doedd gen i ddim teledu na chartwnau i blant i dawelu fy mab, does gen i ddim teganau. Daeth yn orfywiog ac roedd e’ eisiau mynd allan.”
Roedd gan Nazia ferched hefyd a oedd yn cael trafferth byw yn y lleoliad llety dros dro. Roedd un ferch yn casáu’r ardal, gan arwain iddi feio a chosbi Nazia am beidio â gallu gadael. Cafodd y lleoliad effaith fawr ar ferch hynaf Nazia, gan arwain at ddirywiad yn ei hiechyd meddwl, hunan-niweidio, ac ymyrraeth gan yr ysgol a’r meddyg teulu,
“Mae [fy merch] yn cofio’n union pan oedden ni’n byw gyda’n gilydd mewn un ystafell, dydw i ddim yn gwybod pam nad yw wedi mynd o’i meddwl. Dydw i ddim yn gwybod pam mae’r atgofion hyn yno o hyd a sut i’w dileu o’i meddwl”.
Doedd Nazia a’i phlant ddim yn teimlo’n ddiogel yn yr ardal y cawsant eu lleoli ynddi. Nid oeddent yn gyfarwydd â’r ardal ac yn ei chael hi’n swnllyd iawn. Yn aml, byddai’r plant eisiau gwylio’r damweiniau ceir a’r helfeydd heddlu a oedd yn digwydd y tu allan ac roedd llawer o weiddi a phobl yn chwydu ar y stryd.
“Bob dydd roedd drama, heddlu, roedd yn wallgof. Roedd hi’n dywydd poeth a phan agorais y ffenest, nid oeddwn yn gallu cysgu oherwydd y cyffuriau a sŵn dynion gyda beiciau modur. Nid oedd yn ddiogel. Roedd llawer o gyffuriau”.
Teimlai Nazia ei bod wedi’i rhoi mewn llety dros dro am gyfnod rhy hir ac na ddylai teuluoedd orfod aros yno am wythnosau. Dywedwyd wrthi, oherwydd ei bod wedi gadael yr ardal o’r blaen, ei bod ymhell i lawr y rhestr dai a bod ganddi siawns isel o gael tŷ cyngor. Argymhellodd yr awdurdod lleol iddi ddod o hyd i lety rhent preifat. Gwnaeth Nazia hyn a dywedodd fod ganddi landlord preifat hyfryd bellach. Mae’n gefnogol iawn ac wedi addo iddi hi a’i phlant y gallant fyw yn y tŷ cyhyd ag y dymunant ac na fydd yn rhaid iddynt fyw mewn llety dros dro eto. Dywedodd Nazia eu bod yn hapus yno.
Er bod Nazia a’i theulu bellach yn hapus ac wedi ymgartrefu, mae hi’n teimlo nad oes digon o dai ar gael, ac mae hi’n gobeithio y bydd mwy yn cael eu hadeiladu ar gyfer y teuluoedd sydd eu hangen.
Mae stori Nazia yn dangos y gwahaniaeth y gall cartref parhaol ei wneud. Lle i fwrw gwreiddiau, i fod gyda’i gilydd fel teulu ac yn y pen draw lle y byddem ni i gyd yn ei adnabod fel cartref go iawn yn hytrach na lloches.