Mae gan Gemma ddau fab ac mae hi’n gweithio mewn proffesiwn arbenigol. Mae hi wedi bod yn byw mewn llety dros dro gyda’i mab ieuengaf ers bron i flwyddyn a hanner. Ar ôl gadael perthynas ormesol, arhosodd Gemma a’i phlant gydag aelod o’r teulu i ddechrau. Fodd bynnag, roedd yn rhy orlawn ac arweiniwyd Gemma i gredu y byddai’n well iddi fod mewn llety dros dro. Yn anffodus serch hynny, pan symudodd Gemma i’w lleoliad llety dros dro, dywedodd ei fod mewn cyflwr ofnadwy,
“Roedd y tŷ yn erchyll, roedd yn frwnt ac wedi’i orchuddio â lleithder. Talais i gael y carped wedi’i lanhau gan ei fod yn ffiaidd. Roedd yn anodd i’m plentyn wrth fynd ag ef i’r eiddo hwn. Roedd ganddo lenni ond roeddent wedi’u gorchuddio â llwydni a lleithder”
Roedd gan fab iau Gemma gyflwr iechyd a waethygwyd gan gyflwr gwael y llety, felly gwariodd arian ac ymdrech ar wneud y llety’n lân ac yn bersonol.
Oherwydd anaddasrwydd y lleoliad llety dros dro, dim ond am ychydig nosweithiau’r wythnos y gall mab hŷn Gemma aros gyda Gemma. Mae Gemma a’i mab iau wedi gweld y sefyllfa hon yn amharu ar eu huned deuluol, ac yn anodd iawn,
“Dydyn ni ddim yn gweld fy mab hynaf cymaint. Mae’n treulio mwy o amser gyda’i dad gan fod gan ei dad fwy o le. Byddai fy ieuengaf yn crio am ei frawd ac yn ei golli.”
Roedd Gemma yn awyddus i symud allan o lety dros dro ac i gartref mwy addas. Fodd bynnag, gwnaeth yr awdurdod lleol sawl ymgais i symud Gemma i ardaloedd lle byddai ei theulu naill ai mewn perygl neu lle byddent wedi gorfod gadael yr ysgol neu’r gwaith. Dywedodd Gemma ei bod yn frwydr enfawr i atal yr awdurdod lleol rhag eu symud i eiddo anaddas a bod yr ansefydlogrwydd hwn wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl,
“Gyda mi fy hun, yn ceisio amddiffyn fy mhlant a pheidio â dangos y sefyllfa yr oeddwn ynddi, roeddwn yn gyson ar fy ngwyliadwriaeth. Os byddai’r ffôn yn mynd, doeddwn i ddim eisiau ei ateb. Beth os byddent yn fy rhoi i rywle na allaf fynd iddo? Ydyn nhw’n mynd i’n rhoi allan ar y stryd? Fe wnes i orfod mynd ar feddyginiaeth. Dydw i ddim yn gwybod sut rydw i’n dal yn gall. Rydw i jyst yn lwcus, rydw i wedi cael pobl yn fy nghefnogi. Rydw i wedi cael dyddiau lle nad ydw i eisiau codi na mynd i’r gwaith. Mae wedi cael effaith fawr arna’i”
Cafodd byw mewn llety dros dro effaith sylweddol ar blentyn iau Gemma hefyd,
“Es i at y meddygon oherwydd bod ei ysgol wedi sylwi ei fod yn mynd mor bryderus. Mae rhywbeth dibwys yn ei ofiduso. Llewygodd. Dywedodd yr ysgol ei fod bron â chael ymosodiadau pryder … mae’n bendant yn dechrau cymryd ei doll arno. Mae mor bryderus, mae’n llewygu. Mae’n glynu wrtha i drwy’r amser. Yn poeni’n gyson ble rydw i a beth rydw i’n ei wneud”.
Roedd Gemma a’i mab yn ei chael hi’n anodd byw bywyd normal mewn llety dros dro.
“Nid yw cael ffrindiau draw am de yr un peth, nid yw’n gartref. Ni allwn greu lle ein hunain oherwydd nad yw’n gartref. Hyd yn oed y Nadolig, nid yw’r un peth, roedd gennym ni’r goeden leiaf … dydyn ni ddim eisiau bod yma am Nadolig arall”
Yn anffodus, mae straeon fel straeon Gemma ymhell o fod yn unigryw, gyda 2,500 o blant yn tyfu i fyny mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Gallwn, a rhaid i ni, wneud yn well.