Cysgod hir Grenfell Tower
Ers dros 35 mlynedd mae Shelter Cymru wedi bod yn galw am gartrefi gweddus, diogel a fforddiadwy i bawb gan gydnabod bod cartref yn sylfaen i iechyd a lles pobl ac yn sail hefyd i sefydlogrwydd a chydlyniad cymunedau yn eu cyfanrwydd. Rydym wedi ymgyrchu ar bwysigrwydd tai rhent fforddiadwy, safonol i geisio sicrhau nad oes y fath beth â dinasyddion is-raddol pan ddaw i fater o gartrefu pobl.
Rydym yn gwybod bod anghyfartaledd ym maes tai yn achosi iechyd gwael ac yn cyfrannu at farwolaeth cyn amserol weithiau drwy dân neu wenwyn. Nawr, yn drychinebus, rydym wedi gwylio mewn anghrediniaeth wrth i anghyfartaledd tai ladd, mewn un digwyddiad, ugeiniau o bobl.
Mae Grenfell Tower yn symbol brawychus o ddull o gartrefu pobl sydd wedi methu a sydd wedi creu tlodi, iechyd gwael, ansicrwydd a digartrefedd am flynyddoedd. Mae’n debyg mai’r rheswm oedd y defnydd gorchuddio rhad ar flaen yr adeilad, ond mae gwreiddiau’r drychineb hon yn mynd yn ddyfnach.
Mae gwariant cyhoeddus ar dai yn y cyfnod modern hwn yn llai o lawer nag ydoedd 40 neu 50 mlynedd yn ôl a mae’r budd-daliadau sylfaenol sydd ei angen ar bobl i fforddio cost cynyddol rhent wedi cael ei wasgu’n ddi-baid a’i ynysu oddi wrth wir anghenion, ac mae cartrefu pobl sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol wedi’i adael yn bennaf i’r farchnad – a dydy’r farchnad ddim wedi, nac yn gallu, diwallu’r angen.
Yn y 1980au gwelwyd dechrau’r dirywiad a’r preifateiddio mewn tai a chartrefedd. Nid oedd y drefn bellach yn gyfrifoldeb cyfunol i sicrhau bod pob dinesydd yn cael cartref gweddus, roedd yn gyfrifoldeb unigol.
Mae’r farn hon yn dal i adleisio. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall pam ei bod yn bwysig cyfrannu drwy drethi i wasnaethau iechyd ac addysg a’r heddlu, ond maent yn llai eglur pam y dylent gefnogi adeiladu tai fforddiadwy, os yw polau pinion ar fwriadau pleidleisio yn gywir. Mae polisi cyhoeddus wedi arwain ac adlewyrchu’r farn bod dod o hyd i rywle i fyw yn ddibynnol ar ddewisiadau personol sydd bron heb eu cyffwrdd gan ffaeleddau strythurol y farchnad a pholisi cyhoeddus.
Efallai y gwnaiff trychineb Grenfell Tower newid hynny – efallai y bydd yn arwain at well gydnabyddiaeth bod gennym gyfundrefn dai sy’n creu dinasyddion eilradd, pobl sy’n ansicr, yn ansefydlog, yn byw mewn amodau tai gwael a pheryglus – pobl heb lais. A dweud y gwir, allwn ni ddim gadael i drychineb Grenfell Tower wneud unrhywbeth heblaw newid y farn ymhlith pobl a gwleidyddion.
Rydym wedi adeiladu carfan o gefnogwyr ymgyrchoedd ar draws Cymru a fydd, gobeithio, yn lledaenu’r gair ynghlych pwysigrwydd cartrefi gweddus i bawb a pham y dylai pawb, mewn cartrefedd da a gwael, alw am fwy o adnoddau i adeiladu tai fforddiadwy o safon i greu system dai sy’n cefnogi pawb.
Yng Nghymru, mae cydnabyddiaeth gynyddol wedi bod i bwysigrwydd cartref gweddus i bobl a chymunedau ac rydym yn croesawu targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Ond ‘dyw hyn dal ddim yn ddigon – gall gael ei danseilio gan benderyniadau o San Steffan ar fudd-daliadau a gwariant cyhoeddus. Rydym yn dweud bod gan bawb yr hawl i gartref gweddus; mae angen i ni wneud yr hawl yn realiti.
Cyhoeddir mwy o wybodaeth ar yr ymateb i drychineb Grenfell Tower yma dros y dyddiau nesaf.
gan John Puzey, Cyfarwyddwr, Shelter Cymru