Skip to main content

Datganiad – mae Cartref yn Hawl Ddynol

Ruth Power Posted by Ruth Power 1 min read

Ynghyd â sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn y sector tai a digartrefedd, credwn y dylai pawb yng Nghymru allu cael hyd i gartref diogel, sicr, addas a gwirionedddol fforddiadwy, oherwydd mae cartref yn hawl ddynol.

I gannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru, yr unig ffordd o wireddu’r weledigaeth hon yw trwy gael cartref cymdeithasol. Ond ers degawdau, rydym wedi methu â darparu’r cartrefi cymdeithasol sydd eu hangen arnom yng Nghymru; ac er ein bod yn newid hynny drwy barhau i gynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol, mae’r rhai sydd gennym yn cael eu dyrannu yn unol â pholisïau lleol. Er y gall hyn fod yn angenrheidiol, mae’n hanfodol bod y polisïau hyn yn canolbwyntio ar anghenion tai pobl, eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol, a’u bod yn cael eu gweithredu’n dryloyw.

Ni fydd gwneud grwpiau penodol o bobl yng Nghymru yn fwch dihangol yn datrys yr argyfwng tai. Dim ond gwthio mwy o bobl tuag at ddigartrefedd ac ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau awdurdodau lleol a’r trydydd sector – sydd eisoes dan straen mawr – y bydd gwahardd pobl sydd mewn angen rhag cael mynediad at gartrefi cymdeithasol; a bydd hynny hefyd yn peryglu gwthio mwy o bobl i sefyllfaoedd anniogel, fel cysgu ar y stryd.

Rydym am fod yn glir mai problem ganolog y broses o ddogni cartrefi cymdeithasol, a’r argyfwng tai ehangach yng Nghymru, yw’r prinder dybryd o gartrefi cymdeithasol. Mae hon yn broblem y gallwn, a rhaid i ni, weithio gyda’n gilydd i’w datrys, fel bod gan bawb yng Nghymru sylfaen gadarn o gartref addas.