Gosod Gonest: pam mae’n bryd i Gymru wahardd ffioedd asiantaethau gosod
Gall sefydlu’ch hun mewn tenantiaeth breifat fod yn syfrdanol o ddrud. Nid yn unig y mae’n rhaid i denantiaid newydd ddod o hyd i filoedd o bunnoedd cyn cychwyn ar gyfer talu blaendaliadau tenantiaeth a rhent ymlaen llaw – rhaid iddynt hefyd dalu ffioedd i asiantaethau gosod, sydd yn aml yn costio cannoedd ac yn anodd eu cymharu yn y farchnad.
Rhwng diwedd Ionawr a dechrau Mawrth 2016, cynhaliom ddigwyddiad siopa cudd â chyfranogaeth dorfol mewn 85 o asiantaethau gosod ledled Cymru.
Gyda chymorth cefnogwyr ein hymgyrch fe wnaethom adolygu gwefannau a ffonio asiantaethau i ganfod pa ffioedd yr oeddent yn eu codi a sut oeddent yn eu harddangos. Nid yw’r hyn y gwnaethom ei ganfod yn ddim mwy na diystyriaeth llwyr o’r gyfraith.
Nid yw dros hanner yr asiantaethau lle’r anfonom gwsmeriaid cudd yn dilyn gofynion cyfreithiol I arddangos eu ffioedd yn glir. Rhoddodd llawer o asiantaethau wybodaeth am ffioedd dros y ffôn a oedd yn groes i’r wybodaeth ar eu gwefannau, tra’r oedd rhai i weld fel pe baent yn pennu ffi yn y fan a’r lle.
Yn gyffredinol, roedd y ffi uchaf 12 gwaith yn uwch na’r isaf.
Canlyniad terfynol hyn yw marchnad anghystadleuol sy’n methu â gyrru prisiau i lawr i’r nifer cynyddol o unigolion, cyplau a theuluoedd yng Nghymru sy’n dibynnu ar dai rhent preifat. Mae angen i hyn newid.
Yn wyneb y gwirioneddau hyn, dim ond un ateb realistig sydd – gwahardd asiantaethau gosod rhag codi ffioedd ar denantiaid i sefydlu tenantiaeth.