Skip to main content

Pobl a Chartrefi 2016

Robbie Pritchard Posted by Robbie Pritchard in Newyddion 1 min read

Placeholder image

Siaradwyr nodedig yng nghynhadledd Shelter Cymru 2016

Dydd Iau yma bydd Carl Sargeant AC yn rhoi ei araith gyntaf ar dai fel Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant, yng nghynhadledd Shelter Cymru 2016, Pobl a Chartrefi. Dechreuodd Mr Sargeant ar ei swydd fis diwethaf a bydd yn arwain rhaglen manifesto Llywodraeth Cymru i sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y Cynulliad hwn.

Bydd cynhadledd eleni a gynhelir yn Stadiwm Liberty, Abertawe yn cael ei chadeirio yn y bore gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg a chyn aelod o Fwrdd Shelter Cymru.  Bydd o gwmpas 130 o fynychwyr ar draws y sector tai yng Nghymru ymgynnull yn y gynhadledd flynyddol hon sydd eleni yn nodi 35 mlynedd o waith Shelter Cymru o weithio i atal digartrefedd.  Daran Hill. Rheolwr Gyfarwyddwr Positif, ymgynghoriaeth materion cyhoeddus a chyfathrebu, bydd yn cadeirio’r prynhawn.

Meddai  John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru “Drwy gydol y dydd byddwn yn cyflwyno syniadau a safbwyntiau newydd.  Fel arfer, bydd ein ffocws ar bobl, a byddwn yn clywed gan ymgyrchwyr a thenantiaid sydd a phrofiad uniongyrchol o broblemau tai ac sydd yn angerddol o ymwrwymedig i greu gwell dyfodol i eraill.”

Bydd siaradwyr amlwg o’r DU yn annerch y gynhadledd a’r sesiynau trafod drwy’r dydd gan gynnwys Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn ymchwilydd i Shelter Cymru; Sue Heath, Athro Cymdeithaseg, Prifysgol Manceinion a Michael Simon, Cydlynydd Datblygu Cymunedol prosiect Granby Four Streets a enillodd Wobr Turner 2015.

Bydd y gynhadledd yn adlewyrchu ar ddatblygiadau cadarnhaol y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru yn cynnwys y ddeddfwriaeth tai arloesol, gwell rheoleiddio o’r sector rhentu preifat ac ymrwymiad uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru i ddyblu’r lefelau cyfredol o adeiladu tai fforddiadwy.

Ychwanegodd John Puzey “Mae Cymru yn gynyddol yn cael ei gweld fel grym arweiniol wrth atal digartrefedd.  Bydd y gynhadledd hefyd yn trafod sut i adeiladau ar lwyddiannau cynnar Deddf Tai (Cymru)i gadw’r momenwtm i fynd.  Sut beth fyddai diwylliant sy’n cael ei yrru gan atal digartrefedd a beth fyddai hyn yn ei olygu i bobl Cymru?”

Bydd amrywiaeth o arddangoswyr yno hefyd  yn cynnwys Cymorth i Ferched Cymru, Y Wallich a Thenantiaid Cymru.