Shelter Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o dai fforddiadwy

Mae arolwg diweddar yn dangos bod mwy na phedwar o bob pump person yng Nghymru o blaid twf aruthrol yn y nifer o dai fforddiadwy sy’n cael eu hadeiladu bob blwyddyn.

Mae mwyafrif sylweddol (83 y cant) hefyd yn cytuno bod argyfwng yn y cyflenwad tai.

Mae’r canlyniadau yn neges glir i Aelodau Cynulliad bod rhaid i faterion yn ymwneud â thai fod ar flaen yr agenda o ran Y Rhaglen dros Lywodraeth newydd.

“Mae iechyd, addysg a chyfleoedd bywyd pobol yn dibynnu ar p’run ai a oes ganddynt rhywle gweddus i’w alw’n gartref” meddai John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru.

“Rydym wedi cael addewidion cadarn ar dai a chartrefedd yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad – nawr rydym am weld yr addewidion yn troi’n weithredoedd”

Dengys yr ymchwil, a wnaed gan Opinium Research ar ran papur newydd yr Observer y byddai  82% o bobol yng Nghymru yn cefnogi polisi I adeiladu 250,000 o dai fforddiadwy ar draws y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Ychwanegodd John Puzey:

“Roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn addo 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y tymor nesaf o lywodraeth.  Petaem yn gallu gwireddu hyn, byddai’n dyblu’r nifer o dai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru ar hyn o bryd.  Dyma’ r raddfa o weithredu sydd ei angen i gartrefu poblogaeth gynyddol y wlad hon.  Mae’r cyhoedd ynh amlwg yn cytuno ei bod yn rhaid I hyn fod yn flaenoriaeth I’r Llywodraeth newydd.”

Dengys yr arolwg hefyd bod lefel uchel o gefnogaeth dros adeiladu ar  safleoedd “brownfield” (58 y cant) a chyfyngu ar berchnogaeth estron o eiddo ar gyfer buddsoddiad (52 y cant).

Roedd bron I naw allan o ddeg (88 y cant) yn dyheu am fod yn berchen are u cartref eu hunain rhyw ddiwrnod, ond roedd yr un nifer (89 y cant) yn cytuno, heb help gan eu teuluoedd, ei bod yn fwyfwy anodd I ddod yn berchen ar dy.