Skip to main content
Mouldy window

“Roedd fy landlord eisiau fi mas er mwyn iddo allu cynyddu’r rhent. Dwi wastad wedi rhentu’n breifat, ond alla i ddim byw yma nawr.”

Mae Amber wedi bod yn byw mewn llety dros dro gyda’i merch ers sawl mis. Bu’n rhaid iddi symud allan o’i chartref rhent preifat gan fod ei landlord eisiau gwerthu, felly cafodd hysbysiad troi tenant allan heb fai.

Ar hyn o bryd, mae’n byw mewn carafán ar safle gwyliau prysur. Mae ganddyn nhw ddau gi therapi, ond gofynnwyd iddyn nhw ailgartrefu eu hanifeiliaid anwes. Mae hi eisoes wedi gorfod ailgartrefu ei chathod.

“Fy anifeiliaid anwes yw fy mywyd. Fe wnaeth fy nghydlynydd gofal a’m therapydd ysgrifennu llythyrau yn amlinellu pwysigrwydd fy anifeiliaid anwes i mi. Dywedodd y cyngor wrtha i am eu rhoi nhw mewn cenel os na fyddwn i’n eu hailgartrefu nhw, ac y byddai’n rhaid i mi dalu. Maen nhw jest yn disgwyl i chi gael gwared arnyn nhw.”

Dywedodd Amber a’i merch fod byw yn y garafán yn golygu bod eu cyflyrau iechyd meddwl wedi mynd o ddrwg i waeth. Mae gan Amber PTSD ac mae’n glawstroffobig iawn, ac ers bod mewn llety dros dro, mae wedi cael pyliau o banig yn y gawod oherwydd maint yr ystafell ymolchi. Yn aml mae criw swnllyd a meddw o bobl ar wyliau ar y safle sy’n gwneud i’r ddwy deimlo’n anniogel yn y garafán. Mae pobl wedi aflonyddu arnyn nhw ar lafar, ac eraill wedi curo ar eu ffenestri neu wedi cicio’u drws.

Y llynedd, fe wnaeth 4,000 o deuluoedd adael llety dros dro heb gael cynnig cartref parhaol. Mae ein sgyrsiau gyda chleientiaid Shelter Cymru yn dangos bod eraill fel Amber a’i merch yn teimlo’n anniogel mewn llety dros dro. Bydd rhai o’r rhain yn penderfynu gadael eu llety dros dro ac yn symud i sefyllfa o ddigartrefedd cudd trwy syrffio soffas neu fyw mewn cerbydau.

Mae Shelter Cymru yn gweithio gydag Amber ar apêl i symud gan nad yw ei llety dros dro yn addas iddi hi a’i merch. Mae’n dal i chwilio am lety rhent preifat ond wedi cael trafferth dod o hyd i unrhyw beth o fewn ei chyllideb yn lleol.

Mae llawer o bobl ledled Cymru wedi eu gwneud yn ddigartref wrth i landlordiaid gynyddu eu rhent. Mae angen mwy o gartrefi cymdeithasol arnom fel y gall teuluoedd fel Amber gael sylfaen ddiogel i adeiladu eu bywydau.

Gallwch helpu drwy lofnodi ein llythyr at y Prif Weinidog yn gofyn iddi wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr holl gamau posibl i ddarparu’r cartrefi sydd eu hangen arnom fel nad yw teuluoedd fel un Steve yn gaeth mewn cartrefi dros dro anniogel ac anaddas.

Yn Shelter Cymru, rydyn ni’n creu y dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref diogel, sicr, addas a fforddiadwy. Dyma’r sylfaen ar gyfer iechyd a lles pobl a chymunedau. Cartref yw popeth.