Skip to main content
Mouldy plug socket

“Rydyn ni mewn twll o le ar hyn o bryd, ac wedi bod yma ers 3 blynedd yn barod.”

Mae Steve yn byw gyda’i blant, ei bartner a’u ci mewn fflat llety dros dro. Er bod y fflat yn llawer rhy fach, mae yna hefyd sawl problem arall gyda’r eiddo. Mae rhan o’r nenfwd wedi cwympo ac mae gan bob ystafell lwydni, ac er i’r cyngor geisio glanhau’r lle daeth y llwydni yn ôl mewn ychydig wythnosau. Yn y gaeaf, bu’n rhaid iddyn nhw daflu llawer o’u dillad i’r bin oherwydd y tamprwydd.

Mae’r bychan wedi bod â pheswch ers sawl wythnos a’r plentyn pedair ar ddeg oed wedi cael diagnosis o asthma. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol a’r ymwelydd iechyd yn poeni’n arw ac wedi ysgrifennu at y cyngor. Mae ysgol y plant hefyd wedi ysgrifennu at y cyngor i amlinellu effaith y fflatiau dros dro ar iechyd a lles y plant, ond dydy’r cyngor ddim wedi ymateb.

“Dydy e ddim yn deg ar y plant. Dydy’r ferch ddim eisiau mynd i’r ysgol mwyach. Roedd hi’n cael problemau gyda phlant eraill, a oedd yn pigo arni hi. Ac mae ganddi gywilydd gyda’n hamodau byw ni. Dydy’r plant ddim yn gallu dod â ffrindiau draw i hyn.”

Roedden nhw wedi riportio crac ar gefn y tŷ a dŵr yn gollwng drwy’r to i’r ystafell wely lle’r oedd y plant yn cysgu, cyn cael gwybod nad y crac oedd y broblem. Mae’r hollt bellach drwy’r wal, mae dŵr wedi bod yn dod i mewn ac mae rhan o’r nenfwd wedi cwympo fel nad oes modd defnyddio’r ystafell wely mwyach. Pan mae’r teulu wedi codi’r problemau, mae’r cyngor wedi cynnig eu symud i hostel, gan ddweud nad oes opsiynau eraill ar gael.

Ledled Cymru, mae teuluoedd fel Steve yn byw dan amodau ofnadwy, heb unrhyw lais ynglŷn â lle neu pryd y gallan nhw gael cartref.

Gallwch helpu drwy lofnodi ein llythyr at y Prif Weinidog yn gofyn iddi wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr holl gamau posibl i ddarparu’r cartrefi sydd eu hangen arnom fel nad yw teuluoedd fel un Steve yn gaeth mewn cartrefi dros dro anniogel ac anaddas.

Yn Shelter Cymru, rydyn ni’n creu y dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref diogel, sicr, addas a fforddiadwy. Dyma’r sylfaen ar gyfer iechyd a lles pobl a chymunedau. Cartref yw popeth.