Skip to main content
Sofa in mouldy room

“All pethau ddim para fel ‘ma nhw. Mae fy nghyflwr meddwl i’n dirywio”

Mae Sara yn 57 oed ac wedi bod yn ddigartref ers dwy flynedd. Mae’n byw mewn gwesty ar hyn o bryd, a chyn hynny, bu’n byw mewn llety gwely a brecwast am naw mis yn dilyn cyfnod o syrffio soffa.

Mae gan Sara ddiabetes ac mae’n cael inswlin ar bresgripsiwn, yn ogystal â chynllun rheoli bwyd, ond yn ddiweddar cafodd ei chludo i’r ysbyty am bedwar diwrnod oherwydd bod ei lefelau siwgr gwaed yn beryglus o isel.

Does dim cyfleusterau coginio yn y gwesty lle mae Sara yn byw felly mae hi wedi cael oergell yn ei hystafell er mwyn iddi allu storio ei hinswlin yn ddiogel. Mae hi’n treulio noson neu ddwy yn rheolaidd yng nghartref ei chwaer pan fydd hi’n sâl, er mwyn iddi allu gorffwys a bwyta’n iawn.

“Fel arfer dwi’n mynd at fy chwaer i gael bwyd. Mae’n coginio i mi ac yn rhoi brechdanau i mi rhag ofn y bydd angen i mi fwyta yn y nos. Mae hi’n poeni na fydda i’n gallu dod o hyd i fwyd pan dwi ei angen, ac y bydda i’n cael trawiad diabetig.”

Mae gan Sara broblemau symudedd ac mae angen eiddo wedi’i addasu arni. Mae ei Therapydd Galwedigaethol wedi ysgrifennu at y cyngor i gadarnhau y gallen nhw dalu am addasiadau i eiddo a threfnu’r gwaith, ond dydy hyn ddim wedi cyflymu ei lle ar y rhestr.

Mae bywyd gwesty yn straen i Sara, yn enwedig fin nos pan mae’n fwy swnllyd yno. Mae staff y gwesty yn dweud nad eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud i Sara deimlo’n ddiogel, ac nad yw hi’n ddigartref go iawn os ydy hi’n gallu aros ar soffa ei chwaer.

Mae llawer o bobl mewn sefyllfaoedd tebyg i Sara, pobl sy’n methu dianc o lety anaddas ac ansefydlog dros dro wrth iddyn nhw aros am gartref parhaol sy’n diwallu eu hanghenion.

Gallwch helpu drwy lofnodi ein llythyr at y Prif Weinidog yn gofyn iddi wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr holl gamau posibl i ddarparu’r cartrefi sydd eu hangen arnom fel nad yw Sara, ac eraill tebyg iddi, yn gaeth mewn gwestai a llety gwely a brecwast.

Yn Shelter Cymru, rydyn ni’n creu y dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref diogel, sicr, addas a fforddiadwy. Dyma’r sylfaen ar gyfer iechyd a lles pobl a chymunedau. Cartref yw popeth.