Ein cartrefi yw’r sylfaen ar gyfer ein bywydau
Dylai pob un ohonom yng Nghymru gael cartref cysurus, sicr a diogel – cartref sy’n helpu i ofalu am ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Ond ar hyn o bryd, i lawer yma yng Nghymru, dydy lle maen nhw’n byw ddim yn gartref go iawn iddyn nhw. Yn hytrach, mae’n rhywle sy’n niweidiol i’w lles. Does gennym ni ddim hanner digon o gartrefi cymdeithasol, felly yng Nghymru ar hyn o bryd, mae dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro – ac mae bron i 3,000 ohonyn nhw’n blant. Mae hynny’n golygu bod o leiaf 2 blentyn o bob ysgol yng Nghymru yn ceisio cynnal eu haddysg, eu cyfeillgarwch a’u lles wrth fyw mewn llety dros dro.
Buom yn holi pobl am eu profiadau o fyw mewn llety dros dro, ac yn siarad â chynghorau lleol am gost llety dros dro. Darllenwch ymlaen a defnyddiwch ein map rhyngweithiol isod i ddysgu mwy.
Darllen llai
Dydy llety dros dro ddim yn gartref. Mae llety dros dro yn golygu bod pobl yn byw mewn llety gwely a brecwast, gwestai, llety ar barciau gwyliau (fel carafanau statig) a chartrefi sy’n eiddo i landlordiaid preifat. Does dim sylfaen na sefydlogrwydd i’r miloedd o bobl a theuluoedd sy’n gaeth mewn llety dros dro.
Mae pobl mewn llety dros dro yn dweud wrth gynghorwyr Shelter Cymru eu bod nhw’n byw mewn ofn yn feunyddiol – a byth yn gwybod pryd fyddan nhw’n gorfod symud nesaf, a fyddan nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu rhwydwaith cymorth a’u cymuned, neu beth fydd safon a chyflwr eu lleoliad nesaf. Mae rhieni yn poeni y bydd eu plant ifanc yn profi oedi mewn datblygiad wrth orfod byw mewn ystafelloedd sengl neu amodau cyfyng heb y lle sydd ei angen ar blant i symud ac archwilio; ac maen nhw wedi rhannu eu pryderon am eu plant o oedran ysgol, y mae eu haddysg a’u hiechyd meddwl yn cael eu heffeithio gan fyw mewn llety dros dro.
Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae pobl Cymru yn haeddu mwy o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy o safon, sy’n cynnig y sefydlogrwydd sydd ei angen arnom i ffynnu. Mae cartrefi cymdeithasol yn cynnig lleoedd iach i deuluoedd chwarae, astudio, ymlacio a byw heb boeni lle fyddan nhw’r wythnos nesaf, neu fory hyd yn oed.
Gyda mwy a mwy angen help, mae cynghorau o Fôn i Fynwy yn dod yn ddibynnol ar fusnesau’r sector preifat i ddarparu llety dros dro sy’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Dibyniaeth sydd wedi arwain at gynnydd yn y costau o ddarparu llety dros dro a symiau enfawr o arian y gellid ei ddefnyddio i ddarparu atebion lleol i’r argyfwng tai yn mynd i bocedi perchnogion gwestai a landlordiaid yn lle.
Y llynedd yn unig, roedd llety dros dro yng Nghymru yn costio dros £99 miliwn, gyda dros hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i berchnogion busnesau preifat.
Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu atebion trawslywodraethol sy’n gweithio i bobl, nid i orelwyr.
Gallwch ddarllen ein hargymhellion polisi yn ein briff polisi yma.
Mae ein map o Gymru yn dangos faint dalodd eich cyngor lleol chi am lety dros dro y llynedd, a faint o’r arian hwnnw aeth yn syth i bocedi perchnogion busnesau preifat.
Dewiswch eich awdurdod lleol
Yn Shelter Cymru rydym yn gweld bob dydd yr effaith mae llety dros dro o ansawdd gwael yn ei gael. Mae rhai o’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw wedi rhannu eu straeon am lety dros dro sy’n cael ei ddarparu gan y sector preifat, a sut mae hyn wedi effeithio ar eu teuluoedd.
*Mae’r rhain yn ddyfyniadau uniongyrchol gan gleientiaid Shelter Cymru, ond rydym wedi newid eu henwau i warchod eu hunaniaeth.
Stori Sara
“All pethau ddim para fel ‘ma nhw. Mae fy nghyflwr meddwl i’n dirywio” Mae Sara yn 57 oed ac wedi bod yn ddigartref ers dwy flynedd. Mae’n byw mewn gwesty ar hyn o bryd, a chyn hynny, bu’n byw mewn llety gwely a brecwast am naw mis yn dilyn cyfnod o syrffio soffa.
Stori Amber
“Roedd fy landlord eisiau fi mas er mwyn iddo allu cynyddu’r rhent. Dwi wastad wedi rhentu’n breifat, ond alla i ddim byw yma nawr.” Mae Amber wedi bod yn byw mewn llety dros dro gyda’i merch ers sawl mis. Bu’n rhaid iddi symud allan o’i chartref rhent preifat gan fod ei landlord eisiau gwerthu, felly…
Stori Steve
“Rydyn ni mewn twll o le ar hyn o bryd, ac wedi bod yma ers 3 blynedd yn barod.” Mae Steve yn byw gyda’i blant, ei bartner a’u ci mewn fflat llety dros dro. Er bod y fflat yn llawer rhy fach, mae yna hefyd sawl problem arall gyda’r eiddo. Mae rhan o’r nenfwd wedi…