Os oes rhaid i chi adael cartref oherwydd bod eich partner yn ymddwyn mewn ffordd sarhaus neu fygythiol, efallai y byddwch am aros mewn lloches. Neu, os gwnewch gais fel rhywun digartref, efallai y bydd y cyngor yn trefnu llety brys mewn lloches.
Pwy all fynd i loches?
Gall unrhyw un sy’n cael ei gam-drin fynd i loches er diogelwch. Nid oes rhaid i chi gael plant i gael lle mewn lloches, ac nid oes angen i chi fod wedi gadael eich partner yn barhaol.
Ble bydd y lloches?
Cedwir cyfeiriadau llochesi yn gyfrinachol er mwyn amddiffyn preswylwyr rhag partneriaid camdriniol. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros mewn ardal arall os nad oes lleoedd yn eich lloches agosaf.
Sut mae mynd i loches?
Mae sawl ffordd y gallech chi gael lle mewn lloches:
- ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr rhadffôn ar 0808 8010 800 neu linell gymorth Shelter Cymru. Bydd cynghorydd yn gwneud ei orau i ddod o hyd i le i chi mewn lloches sy’n addas i’ch anghenion, neu bydd yn eich helpu i drefnu rhywle arall diogel i aros os nad oes lleoedd ar gael
- efallai y bydd yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol yn gallu eich cyfeirio
- efallai y gall y cyngor lleol eich cyfeirio, neu efallai y bydd yn trefnu i chi aros mewn lloches fel llety brys os byddwch yn gwneud cais digartrefedd.
Byddwch yn ymwybodol efallai na fyddwch yn gallu cael lle mewn lloches ar unwaith, oherwydd gall fod galw mawr am leoedd, ac maent yn gyfyngedig.
Beth os wyf yn anabl neu os oes gennyf blentyn anabl?
Os ydych chi’n anabl, gall fod yn anoddach i chi ddianc o’ch cartref, yn enwedig os oes gennych chi broblemau symudedd. Yn ogystal, nid yw llawer o lochesi yn gwbl hygyrch i bobl anabl. Bydd cynghorydd o’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr rhadffôn (0808 8010 800) yn gallu eich helpu i ddod o hyd i le mewn lloches hygyrch, a gallwch hefyd gael cymorth gan y cyngor.
Sut ydw i’n talu am fy llety?
Nid yw llochesau yn rhad ac am ddim; bydd yn rhaid i chi dalu rhent tra byddwch yn aros yno. Fodd bynnag, efallai y gallwch hawlio costau tai credyd cynhwysol neu fudd-dal tai i helpu i dalu’r gost. Os bydd yn rhaid i chi dalu rhent o hyd ar y cartref yr ydych wedi ffoi ohono, efallai y gallwch gael budd-dal tai ar gyfer dau gartref.
I gael rhagor o wybodaeth am sut le yw llochesi, pa gymorth y gallwch ei gael mewn lloches a’ch hawliau tra byddwch yn aros mewn lloches, cliciwch yma neu ewch i wefan Cymorth i Ferched Cymru.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 19, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.