Skip to main content

Help os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig

Os yw person rydych yn byw gyda nhw neu wedi byw gyda nhw wedi eich cam-drin – boed yn gorfforol ai peidio – gallech fod yn profi cam-drin domestig. Gall y gyfraith eich amddiffyn a’ch helpu i newid eich sefyllfa.

Cam-drin domestig yw pan fydd rhywun sydd mewn perthynas agos â chi yn ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol i chi. Nid oes rhaid i hyn fod yn drais corfforol. Mae cam-drin domestig yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad bygythiol. Gall cam-drin domestig fod yn seicolegol, corfforol, cymdeithasol, ariannol neu emosiynol.

Mae camdrinwyr domestig fel arfer yn briod, partner, cyn-briod, cyn bartner neu aelod agos arall o’r teulu. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn fenywod, ond mae rhai dynion yn cael eu cam-drin gan eu partneriaid.

Ble alla i fynd am help?

Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich cam-drin, mae yna sefydliadau a all eich helpu:

  • Mae llinell gymorth LiveFearFree yn llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru. Ffoniwch 0808 8010 800. Mae’r llinell gymorth hon ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn. Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bost yn [email protected]
  • Elusen yw Refuge sy’n cefnogi menywod a phlant sy’n profi cam-drin domestig. Rhif eu llinell gymorth yw 0808 2000 247 ac mae ar agor 24/7.
  • Gall dynion sy’n profi cam-drin domestig gysylltu â Llinell Gymorth Dynion Respect ar 0808 801 0327. Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm ac mae’n rhad ac am ddim o linellau tir a ffonau symudol yn y DU. Gall dynion sy’n dioddef camdriniaeth hefyd gysylltu â’r Prosiect Dyn yng Nghymru. Gellir cysylltu â’u llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar 0808 801 0321. Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm. Gellir cysylltu trwy e-bost yn: [email protected]. I gael cymorth 24 awr, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
  • Mae Stonewall Cymru yn darparu cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru.
  • Mae BAWSO yn darparu llety diogel a sicr i fenywod a phlant Duon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig yng Nghymru neu sy’n dioddef ohono. Rhif eu llinell gymorth yw 0800 7318147 ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Hourglass – elusen sy’n ymroddedig yn benodol i fynd i’r afael â niwed, esgeulustod, cam-drin a chamfanteisio ar bobl hŷn. Rhif eu llinell gymorth yw 0808 808 8141 ac mae ar agor 24/7.
  • Llinell gymorth gyfrinachol yw Childline ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n profi neu’n dystion i gamdriniaeth sy’n cael ei rhedeg gan yr NSPCC. Y llinell gymorth yw 0800 11 11 ac mae ar agor 24/7. Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol yn y DU ac ni fyddant yn ymddangos ar filiau ffôn.
  • Ap symudol rhad ac am ddim yw Ap Bright Sky sy’n darparu cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod mewn perthynas gamdriniol.
  • Mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor ymarferol pellach ar sut i aros yn ddiogel, iechyd a lles a dolenni i adnoddau ychwanegol.
  • Helplines – Galop the LGBT+ anti-abuse charity – Galop: The Galop Helpline is here to offer emotional support, guidance and help to explore what options may be available for LGBT+ people experiencing abuse, or violence, such as hate crime, domestic abuse, sexual violence, so-called “conversion therapy” or any other kind of abuse. You can phone us on 0800 999 5428.
  • SignHealth: If you are D/deaf or a member of the Hard of Hearing Community and are in an abusive relationship or think you might be, please contact us.
    Our domestic abuse and sexual violence advocates can offer support and advice. Text ONLY 07800003421 Email: [email protected] Signed videos Domestic Violence: Domestic Abuse BSL Videos – SignHealth
  • Mae DASU yn darparu gwasanaethau lloches a gwasanaethau cymunedol ar draws 6 sir Gogledd Cymru. Mae DASU yn rhedeg y gwasanaeth ETDA (Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol) ar gyfer dioddefwyr sy’n wynebu risg uchel ledled Gogledd Cymru. Mae ganddyn nhw hefyd dîm ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n gweithio yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, yn ogystal ag ETDAs sy’n gweithio yn y Llys Teulu ledled Gogledd Cymru; maent yn cynorthwyo i gwblhau asesiadau risg ar gyfer CAFCAS a’r awdurdodau lleol.

Efallai y bydd angen i chi feddwl hefyd a ddylech chi adael eich cartref presennol, neu a allwch chi aros yno a gwella diogelwch. Mae llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Sifil ar 0345 345 4 345 yn wasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim yng Nghymru a Lloegr. Efallai y gallwch gael cyngor am ddim ar broblemau tai, teulu a phroblemau eraill os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gall y llinell gymorth roi manylion cyswllt cyfreithwyr yn eich ardal a allai eich helpu.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 23, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.