Skip to main content

Rhoi ac ymestyn contract safonol ymddygiad gwaharddedig

  • Mae contract safonol ymddygiad gwaharddedig yn gontract prawf 12 mis a roddir gan lys.
  • Mae’n haws i’ch landlord eich troi allan o dan gontract ymddygiad gwaharddedig.
  • Gall landlordiaid cymunedol wneud cais i’r llys i roi contract safonol ymddygiad gwaharddedig i chi os ydych chi wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Os symudoch i’ch cartref cyn 1 Rhagfyr 2022, nid yw’r wybodaeth isod yn berthnasol i chi. Ewch i’n hadran cyngor ar gontractau wedi’u trosi.

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth mae’n rhaid i landlord cymunedol ei wneud i roi contract meddiannaeth safonol ymddygiad gwaharddedig i chi gyda landlord cymunedol. Mae’n ymdrin â sut y mae’n rhaid i chi gael gwybod a’ch hawl i ofyn am adolygiad.

Nid yw’n esbonio’ch hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gennych chi a’ch landlord o dan gontract safonol ymddygiad gwaharddedig. Am wybodaeth am hyn, cliciwch yma.

Oes gen i gontract safonol ymddygiad gwaharddedig?

Gellir rhoi contract safonol ymddygiad gwaharddedig i chi os ydych chi’n torri contract meddiannaeth diogel trwy ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn golygu defnyddio’ch cartref ar gyfer gweithgaredd troseddol neu ymddwyn mewn ffordd a allai achosi niwsans neu annifyrrwch i bobl yn eich cartref neu’n agos ato. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n byw gyda chi neu’n agos a hefyd staff a chontractwyr landlordiaid. Mae’n derm sylfaenol ym mhob contract meddiannaeth na ddylech gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol na bygwth cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Beth sydd raid i’m landlord ei wneud?

I roi contract safonol ymddygiad gwaharddedig i chi, rhaid i’ch landlord gael gorchymyn llys. Os yw’r llys yn cytuno i gais eich landlord i roi contract safonol ymddygiad gwaharddedig i chi, byddwch yn derbyn llythyr gan y llys yn cadarnhau hyn. Dylech hefyd dderbyn contract ysgrifenedig.

Rhaid i’ch landlord roi hysbysiad ysgrifenedig i chi cyn iddynt wneud cais i’r llys. Dylai edrych fel hyn. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y rhesymau pam eu bod yn gwneud cais am orchymyn.

Ar ôl rhoi hysbysiad, gall eich landlord ddechrau achos llys ar unwaith. Dim ond am 6 mis y mae’r hysbysiad yn ddilys felly rhaid i’ch landlord ddechrau achos llys o fewn yr amser hwn.

Gall eich landlord hefyd wneud cais am orchymyn meddiant i’ch troi allan ar yr un pryd. Dylech dderbyn llythyrau gan y llys yn egluro pa gamau y dylech eu cymryd ac yn eich hysbysu am ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

Sut fydd y llys yn penderfynu?

Dim ond os:

  • chi, rhywun sy’n byw gyda chi, neu ymwelydd, wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu wedi defnyddio’ch cartref ar gyfer gweithgaredd troseddol,
  • byddai fel arall yn rhoi gorchymyn meddiant i’ch landlord, a
  • bydd eich landlord yn cynnig cefnogaeth i chi i helpu i atal yr ymddygiad rhag digwydd eto.
  • Gwneud cais i ddod â’r cyfnod prawf i ben yn gynnar

Gallwch wneud cais i’r llys am orchymyn i ddod â’r cyfnod prawf i ben yn gynnar os:

  • mae o leiaf 6 mis wedi mynd heibio, a
  • nid oes angen contract safonol ymddygiad gwaharddedig mwyach, neu
  • nid yw eich landlord wedi cynnig unrhyw gefnogaeth i chi i helpu i atal yr ymddygiad.

Ceisiwch gymorth os ydych chi am wneud hyn.

Pryd y byddaf yn ddeiliad contract diogel eto?

Os nad oes unrhyw broblemau yn ystod y cyfnod prawf, bydd eich contract yn dod yn gontract diogel newydd pan fydd y cyfnod yn dod i ben. Dylech dderbyn contract ysgrifenedig newydd pan fydd y cyfnod prawf yn dod i ben. Mae contractau meddiannaeth safonol gwaharddedig yn para am 12 mis oni bai:

  • mae’ch landlord yn penderfynu ymestyn y cyfnod prawf am 6 mis arall, neu
  • mae’n dod i ben yn gynharach na 12 mis oherwydd bod y landlord wedi rhoi hysbysiad adran 173 ‘dim bai’ i chi ond heb wneud cais i’r llys o fewn 2 fis i’r hysbysiad ddod i ben

Os yw’ch landlord yn cychwyn camau i’ch troi allan, cewch gymorth.

Sut gall fy landlord ymestyn y cyfnod prawf?

Gall eich landlord ymestyn y cyfnod prawf am 6 mis arall trwy roi hysbysiad i chi, y mae’n rhaid iddo:

  • gael ei roi i chi o leiaf 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod prawf
  • roi rhesymau i chi pam mae’r landlord eisiau ymestyn y cyfnod prawf
  • dweud wrthych fod gennych hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad eich landlord.

Os nad ydych yn cytuno y dylid ymestyn eich cyfnod prawf, gallwch ofyn i’r landlord edrych ar y penderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘ofyn am adolygiad’. Rhaid i chi ofyn am adolygiad yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn adolygiad, gweler ein tudalen ar herio penderfyniadau landlordiaid cymunedol.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 28, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.