Os ydych yn gyd-ddeiliad contract, neu os mai’ch partner yw’r unig ddeiliad contract, efallai y gallwch gael y contract meddiannaeth wedi’i drosglwyddo i’ch enw chi yn unig.
Os ydych yn cytuno
Os ydych chi a’ch partner wedi gwneud penderfyniad ynghylch pwy sy’n mynd i aros yn yr eiddo yn y tymor hir, efallai y bydd angen i chi newid yr enw ar y contract meddiannaeth. Os mai’ch partner yw unig ddeiliad y contract a’i fod yn gadael, gall eich landlord eich troi allan oni bai bod y contract wedi newid i’ch enw chi.
Efallai y bydd modd i ddeiliaid contract drosglwyddo’r contract (cyfeirir at y broses hon hefyd fel ‘aseiniad’), neu drwy ofyn i’r landlord roi contract newydd i’r partner sy’n aros, ac yna ildio’r contract presennol eu hunain. Nid oes rhaid i landlord roi contract unigol newydd i’r partner sy’n weddill. Mae’n well peidio â therfynu contract meddiannaeth cyn cael cytundeb ysgrifenedig gan landlord y gellir creu contract newydd ar gyfer y partner sy’n weddill.
Ni ellir trosglwyddo pob contract meddiannaeth, a dim ond i rai pobl y gellir trosglwyddo rhai ohonynt. Mae’r hawl i drosglwyddo’r contract i briod, partner sifil (gan gynnwys rhywun sy’n byw gyda deiliad y contract fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil) yn un o delerau sylfaenol pob contract diogel .
Fodd bynnag, os oes gennych gontract safonol, efallai na fydd gennych yr hawl i drosglwyddo’r contract. Gwiriwch delerau’r contract i weld a ellir ei drosglwyddo. Os yw eich contract yn dweud y gellir ei drosglwyddo gyda chaniatâd y landlord, dim ond os oes rheswm da y gall y landlord wrthod.
Mae’n werth cofio, os rhoddir contract meddiannaeth unigol newydd i chi, y bydd yn rhaid i chi dalu’r holl gostau rhent a chynnal a chadw eich hun. Mae’n werth llunio cyllideb i sicrhau bod y costau’n fforddiadwy. Os na, efallai y gallwch gael taliadau cynhaliaeth neu fudd-daliadau i helpu gyda chostau tai. Gweler ein cyngor ar dalu am dŷ am ragor o fanylion.
Os ydych yn anghytuno
Os na allwch chi a’ch partner gytuno i bwy y dylid trosglwyddo’r contract, bydd yn rhaid i chi gael y llysoedd i benderfynu. Gall hon fod yn weithdrefn hir ac anodd ac mae’n debygol y bydd angen cyfreithiwr arnoch. Bydd y penderfyniad y bydd llys yn ei wneud yn dibynnu a ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil neu’n cyd-fyw, ac a oes gennych blant.
Os oes angen i chi wneud penderfyniad ar unwaith ynghylch pwy sy’n mynd i aros yn y cartref, mae’n well siarad â chynghorydd cyfraith teulu am gael gorchymyn anheddu.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 18, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.