Mae’r tudalennau hyn yn esbonio’ch opsiynau hirdymor os ydych chi’n byw mewn llety rhent a bod eich perthynas yn chwalu. Bydd eich penderfyniad yn seiliedig ar yr hawliau sydd gennych i’ch cartref ar rent, ac amgylchiadau personol eraill, megis cyllid ac a oes gennych blant.
Mae rhoi trefn ar hawliau hirdymor i’r cartref yn gymhleth ac mae sefyllfa pob person yn wahanol. Gall y tudalennau hyn roi trosolwg i chi o’ch opsiynau, ond mae’n debygol y bydd angen i chi siarad â chynghorydd cyfraith teulu neu gyfreithiwr. Gallwch chwilio am ymgynghorydd cyfraith teulu yma.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 18, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.