Skip to main content

Perthynas yn chwalu

Gall chwalfa mewn perthynas fod yn gyfnod anodd. Defnyddiwch y tudalennau isod i’ch helpu i weithio allan yr opsiynau a’r hawliau sydd gennych i’ch cartref.

Os ydych chi’n profi trais neu ymddygiad camdriniol, gweler ein tudalennau ar gam-drin domestig neu ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 – llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am gwnsela a chyfryngu.

Ni all Shelter Cymru roi cyngor ar achosion ysgariad – gweler Cyngor ar Bopeth am wybodaeth fanwl. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, cysylltwch â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu. Gall llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA) ar 0345 345 4 345 roi manylion cyswllt cyfreithwyr yn eich ardal a allai eich helpu.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 8, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.