Nid yw byw gydag aelodau o’r teulu bob amser yn mynd yn esmwyth. Rydym yn edrych ar rai o’r materion y gellir eu codi isod.
Os ydych chi o dan 25 oed, edrychwch ar ein tudalen Cyngor i Bobl Ifanc – mae ganddi lawer o wybodaeth ac awgrymiadau i’ch helpu i ddelio â materion a allai godi pan fyddwch chi’n byw gydag aelodau o’r teulu. Mae ganddi hefyd offeryn chwilio Cymorth Gerllaw i ddod o hyd i sefydliadau a all eich helpu.
Os ydych chi’n byw gyda pherson nad yw’n aelod o’ch teulu, ewch i’n tudalen gyngor ar rannu ac is-osod.
Byw gyda’ch rhieni
Wrth i chi dyfu i fyny, mae’n naturiol na fyddwch chi bob amser yn cytuno â’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid.
Os ydych chi o dan 25 oed, mae gan ein tudalen gyngor i bobl ifanc lawer o syniadau i’ch helpu i wella’ch perthynas â’ch rhieni.
Os ydych chi dros 25 oed, gallai rhai o’r syniadau canlynol helpu:
- Gosodwch rai rheolau sylfaenol
- Ceisiwch drafod yn hytrach na dadlau, a byddwch yn barod i gyfaddawdu. Os ydyn nhw’n arbennig o benderfynol ynglŷn â phwyntiau penodol, gofynnwch iddyn nhw pam, yn hytrach na dadlau amdano, a gwrandewch ar eu rhesymeg.
- Wrth i chi dyfu i fyny, mae’n bwysig eich bod chi ac aelodau’ch teulu yn dechrau gosod rheolau sylfaenol gyda’ch gilydd, ac i wneud penderfyniadau ar y cyd am faterion fel preifatrwydd a gofod personol, pryd a pha mor aml rydych chi’n mynd allan a faint rydych chi’n helpu o gwmpas y tŷ.
Cael parch aelodau’ch teulu
Os ydych chi eisiau cael eich trin fel oedolyn, mae’n bwysig ymddwyn fel un. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer ennill parch ac ymddiriedaeth:
- Gwnewch eich rhan o amgylch y tŷ: gofalwch am frodyr neu chwiorydd iau, gwnewch y golchi neu goginiwch bryd o fwyd i’r teulu
- os ydych chi eisiau i’ch teulu aros allan o’ch ystafell wely, cadwch hi’n daclus. Peidiwch â rhoi esgus iddyn nhw fynd i chwilota o gwmpas
- peidiwch ag eithrio’ch teulu o’ch bywyd – ceisiwch dreulio peth amser o safon gyda nhw o bryd i’w gilydd. Os ydyn nhw’n sylweddoli nad ydych chi’n eu hosgoi, maen nhw’n fwy tebygol o ymddiried ynoch chi ac, yn eu tro, rhoi rhywfaint o le i chi
- ceisiwch beidio â dweud celwydd – os cewch eich dal (ac mae’n debyg y byddwch chi) dim ond gwneud pethau’n waeth a dinistrio ymddiriedaeth eich teulu ynoch chi fydd hynny
- peidiwch â dadlau dros bob peth bach rydych chi’n anghytuno ag ef.
Siaradwch amdano
Os oes gennych chi broblem gyda’r ffordd mae aelodau’ch teulu yn eich trin chi, siaradwch â nhw amdano. Efallai na fyddan nhw hyd yn oed yn sylweddoli eu bod nhw’n eich cynhyrfu.
Os ydych chi’n ddig, arhoswch nes i chi dawelu, yna trafodwch bethau’n rhesymol yn ddiweddarach. Dewiswch foment dda, pan nad ydyn nhw’n brysur a gallant roi sylw i’r hyn rydych chi’n ei ddweud.
Rhowch eich ochr chi o’r stori gerbron, yna gofynnwch iddyn nhw esbonio eu safbwynt nhw. Gwrandewch ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, a cheisiwch gydnabod eu safbwynt, hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno ag ef. Os byddwch chi’n dadlau, peidiwch ag ofni cyfaddef eich bod chi’n anghywir a dweud eich bod chi’n flin.
Siaradwch â rhywun arall
Os ydych chi’n cael problemau cyfathrebu ag aelodau penodol o’ch teulu, er enghraifft eich rhieni neu warcheidwaid, gallai fod o gymorth siarad â rhywun arall fel brawd neu chwaer hŷn, eich neiniau a theidiau, modryb neu ewythr, neu ffrind neu athro. Efallai y byddant yn gallu gweithredu fel cyfryngwr, i helpu i leddfu pethau gyda’ch rhieni.
Fe allech chi hefyd ffonio llinell gymorth fel Childline ar 0800 1111, a siarad â chynghorydd yn gyfrinachol.
Defnyddiwch ein hofferyn Cymorth Gerllaw i ddod o hyd i wasanaethau a all helpu a rhywun y gallwch chi siarad ag ef.
Cael cymorth gan wasanaeth cyfryngu
Os ydych chi’n teimlo bod angen rhywfaint o help ‘ymarferol’ arnoch i ddatrys pethau gyda’ch teulu, gallech gysylltu â chyfryngwr. Mae cyfryngwr yn fath o ganolwr niwtral a all eich helpu chi a’ch rhieni i ddatrys eich problemau. Nid ydynt yn ochri, nid ydynt yn penderfynu ‘pwy sy’n iawn’ ac nid ydynt yn dweud wrthych chi beth i’w wneud. Yn lle hynny, maent yn eich helpu i ddatrys pethau drosoch eich hunain.
Beth os ydw i mewn perygl?
Os yw rhywun yn eich cartref yn dreisgar neu’n gamdriniol tuag atoch chi, rhaid i chi gael cymorth ar unwaith. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.
Gallwch hefyd ffonio:
- y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Trais Domestig 24 awr am ddim ar 0808 2000 247
- Am restr o sefydliadau sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl sy’n profi cam-drin domestig, gweler yma.
Os ydych chi’n teimlo nad oes gennych chi ddewis ond gadael eich cartref, ceisiwch gysylltu â chynghorydd cyn i chi fynd a threfnu rhywfaint o lety brys ymlaen llaw.
Pethau i’w hystyried cyn symud i mewn gyda’ch gilydd
Bydd pethau y bydd angen i chi feddwl amdanynt yn amrywio yn dibynnu ar eich oedran ac amgylchiadau personol eraill. Lawrlwythwch ein rhestr wirio o bethau i’w hystyried cyn mentro. Darllenwch hi gyda’ch partner.
Mae’n syniad da llunio rhestr o gyfrifoldebau eich gilydd. Gallai hyn gynnwys manylion, er enghraifft:
- sut y byddwch chi’n rhannu ac yn talu’r rhent neu’r morgais a biliau’r cartref
- trefniadau gofal plant
- pa hawliau sydd gan bob un ohonoch i aros yn y cartref os byddwch chi’n gwahanu (bydd hyn hefyd yn dibynnu a ydych chi’n berchennog tŷ/rentwr ar y cyd neu’n unig – gweler yma am fwy o fanylion)
- pa hawliau fydd gennych chi i unrhyw eiddo a rennir (er enghraifft, dodrefn neu gar) os byddwch chi’n gwahanu.
Ni fydd y rhestr yn gyfreithiol rwymol ond bydd yn arwydd da o’ch bwriadau os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le yn y dyfodol.
Efallai yr hoffech chi agor cyfrif ar y cyd i neilltuo arian ar gyfer y rhent neu’r morgais, a biliau rheolaidd eraill.
Budd-daliadau
Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn hawlio budd-daliadau, bydd swm y budd-dal a gewch yn cael ei effeithio os byddwch yn symud i mewn gyda’ch gilydd, gan y bydd incwm eich partner yn cael ei ystyried wrth gyfrifo’r budd-daliadau.
Rhaid i chi roi gwybod am newidiadau fel hyn i’r asiantaeth berthnasol cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu arian os ydych yn cael eich gordalu am fudd-daliadau neu efallai y cewch eich erlyn am dwyll.
Rwy’n byw gyda fy mhartner mewn cartref rhent: beth yw fy hawliau?
Os ydych chi’n byw mewn llety rhent gyda’ch gilydd, bydd eich hawliau’n dibynnu ar:
- y math o gytundeb rhentu sydd gennych. Gweler ein cyngor am Rentu os ydych yn ansicr.
- enw pwy yw’r contract meddiannaeth
- a ydych chi’n briod/partneriaid sifil ai peidio.
Deiliaid contract ar y cyd
Os oes gennych gontract meddiannaeth ar y cyd â’ch partner, mae gan y ddau ohonoch yr un hawliau a chyfrifoldebau. Rydych chi’r ddau yn gyfrifol am dalu’r rhent a chadw at delerau’r contract. Os na all un ohonoch dalu ei gyfran, bydd y llall yn gyfrifol am dalu’r rhent cyfan. Dyma fydd yr achos p’un a ydych chi’n briod/partneriaid sifil ai peidio.
Deiliad contract unigol
Mae’n debygol y byddwch chi neu’ch partner yn ddeiliad contract unigol os ydych chi wedi symud i mewn gyda nhw, neu os ydyn nhw wedi symud i mewn gyda chi.
Mae’r rhan fwyaf o gontractau meddiannaeth yn rhoi’r hawl i chi fyw yn yr eiddo gyda’ch partner. Fodd bynnag, mae’n well gwirio’r contract meddiannaeth a siarad â’r landlord os ydych chi’n bwriadu symud i mewn gyda’ch gilydd. Efallai yr hoffech chi hefyd ofyn i’r landlord roi contract ar y cyd, a fydd yn rhoi hawliau cyfartal i’r ddau bartner.
Os nad ydych chi’n briod, yna bydd y person nad yw ei enw ar y contract meddiannaeth yn feddiannwr eithriedig, a bydd ganddo ychydig iawn o hawliau.
Os ydych chi’n briod, bydd eich hawliau’n gryfach (bydd gennych chi, er enghraifft, yr hawl i aros yn yr eiddo nes bod y llys yn dweud y dylech chi adael, talu rhent a chael atgyweiriadau wedi’u gwneud).
Contractau meddiannaeth ar wahân
Os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd fel cwpl, mae’n annhebygol y bydd gennych gontractau meddiannaeth ar wahân. Os gwnewch chi hynny, dim ond am dalu eich cyfran o’r rhent y byddwch chi’n gyfrifol.
Rwy’n byw gyda fy mhartner mewn cartref sy’n eiddo i’r perchennog: beth yw fy hawliau?
Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn llety y mae un ohonoch yn berchen arno, bydd eich hawliau’n dibynnu ar:
- pwy sy’n berchen ar y cartref
- a ydych chi’n briod/partneriaid sifil ai peidio.
Cyd-berchnogion
Os ydych chi’n gyd-berchnogion, byddwch chi’ch dau yn gyfrifol am dalu’r morgais. Os na all un ohonoch dalu ei gyfran, bydd y llall yn gyfrifol am dalu’r morgais cyfan. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw un ohonoch yn byw yn yr eiddo. Byddwch chi’ch dau yn gyfrifol am unrhyw daliadau eraill tuag at y cartref, fel treth y cyngor, biliau cyfleustodau, ac atgyweiriadau neu welliannau.
Yn ogystal, ni all un partner:
- gorfodi’r partner arall i adael heb orchymyn llys
- rhentu na gwerthu’r cartref heb gytundeb y partner arall neu orchymyn llys
- cymryd benthyciad yn erbyn yr eiddo heb gytundeb y partner arall
- newid telerau’r morgais heb ganiatâd y partner arall.
Unig berchennog
Os yw un ohonoch yn berchen ar eich cartref, dim ond y perchennog fydd yn gyfrifol am dalu’r morgais, oni bai bod gennych forgais ar y cyd.
Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, mae gan y sawl nad yw’n berchennog hawl i feddiannu’r cartref, oni bai bod llys wedi gorchymyn bod rhaid iddynt gael eu heithrio.
Mae gan y sawl nad yw’n berchennog hawl hefyd i wneud taliadau tuag at y morgais, er enghraifft, os yw’r perchennog yn symud allan neu’n rhoi’r gorau i dalu. Fodd bynnag, ni ellir dal y sawl nad yw’n berchennog yn gyfrifol am daliadau a fethwyd oni bai bod y llys wedi gorchymyn iddynt wneud taliadau.
Ni all y naill ohonoch:
- orfodi’r llall i adael heb orchymyn llys
- rhentu neu werthu’r eiddo heb gael cytundeb y llall neu orchymyn llys
- cymryd benthyciad yn erbyn yr eiddo heb gytundeb y llall.
Os nad ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, gall y sawl nad yw’n berchennog ddewis gwneud cyfraniadau tuag at y morgais neu redeg y cartref. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd gan y sawl nad yw’n berchennog hawl I cyfran ariannol o’r cartref, oni bai bod gennych gytundeb cyfreithiol sy’n dweud y byddant.
Yn ogystal, efallai y bydd y perchennog yn gallu:
- troi’r person arall allan heb gael gorchymyn llys
- rhentu neu werthu’r cartref heb gytundeb y llall
- cymryd benthyciad yn erbyn yr eiddo heb ganiatâd y llall.
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Gweler yr adran chwalu perthynas am ragor o wybodaeth am eich hawliau tai os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner.
Mae gwefan Byw Gyda’n Gilydd Advice Now yn rhoi rhagor o wybodaeth am eich hawliau os ydych chi’n byw gyda’ch partner, ac mae ganddi Gytundeb Byw Gyda’n Gilydd y gallwch ei lawrlwytho.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 18, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.