Troi allan gan landlord cymunedol cysylltiadau cyflym:
Os ydych chi’n rhentu’ch cartref gan landlord cymunedol yn gyffredinol mae gennych chi’r hawl i aros yn eich cartref, ar yr amod nad ydych chi’n torri rheolau eich cytundeb.
Dim ond fel dewis olaf y dylai landlordiaid cymunedol ystyried troi allan.
Gall y drefn y mae’n rhaid i’ch landlord ei dilyn fod yn wahanol yn dibynnu ar ba fath o gytundeb rhentu sydd gennych. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan landlord cymunedol gontract diogel, ond fe allech chi hefyd gael contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Rhentu gan landlord cymunedol.
Ydych chi dan 25?
Os ydych o dan 25 oed, ac yn poeni am gael eich troi allan, edrychwch ar ein tudalen cyngor ar droi allan, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.
Cael help
Os byddwch yn derbyn hysbysiad neu os yw’ch landlord wedi dechrau achos llys, dylech gael help ar unwaith gan gynghorydd. Efallai y byddwch yn gallu atal neu ohirio’r dadfeddiant. Hyd yn oed os yw’r beilïaid ar y ffordd, nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 9, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.