Skip to main content

Contractau safonol gyda landlordiaid cymunedol

  • Fel arfer bydd gan bobl sy’n rhentu gan landlordiaid cymunedol gontract meddiannaeth sicr
  • Mewn rhai amgylchiadau, gall landlordiaid cymunedol roi contractau meddiannaeth safonol
  • Mae fel arfer yn haws i landlord cymunedol droi allan deiliaid contract meddiannaeth safonol

Os ydych yn rhentu eich cartref gan landlord cymunedol mae’n debyg bod gennych gontract meddiannaeth sicr. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych gontract meddiannaeth safonol os:

  • wnaethoch symud i mewn i’ch cartref lai na blwyddyn yn ôl a rhoddwyd contract safonol rhagarweiniol i chi
  • ydy eich landlord wedi gwneud cais llwyddiannus i’r llys sirol i roi contract safonol ymddygiad gwaharddedig i chi oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • rydych yn byw mewn llety â chymorth ac mae gennych gontract safonol â chymorth
  • rydych yn isddeiliad a bod eich landlord yn rhentu eich cartref gan landlord cymunedol
  • rydych wedi gwneud cais digartrefedd ac yn byw mewn llety brys neu dros dro a ddarperir gan y cyngor
  • rydych chi’n cael eich cyflogi gan landlord cymunedol ac yn byw yn eich cartref fel rhan o’ch cyflogaeth
  • rhoddodd eich landlord hysbysiad i chi cyn i chi symud i mewn bod eich contract yn gontract safonol.
  • Nid yw eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel tai cymdeithasol

Nid yw hon yn rhestr lawn o enghreifftiau.

Contractau safonol ‘trwy rybudd’

Os yw landlord cymunedol am roi contract safonol i chi am reswm nad yw wedi’i restru uchod, dylai roi hysbysiad ‘adran 13’ i chi pan fydd y contract yn dechrau neu cyn hynny. Os symudoch i mewn cyn 1 Rhagfyr 2022 mae gan eich landlord cymunedol tan 1 Chwefror 2023 i roi hysbysiad i chi fod gennych gontract meddiannaeth safonol wedi’i drosi yn hytrach na chontract diogel wedi’i drosi. Gallwch ofyn i’r llys sirol adolygu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad hwn.

Cael cyngor os gofynnwch am adolygiad llys sirol

Os ydych wedi cael contract meddiannaeth safonol gan landlord cymunedol am un o’r rhesymau uchod, neu am unrhyw reswm arall, mae’n well cael cymorth os ydych am ei herio yn y llys sirol. Mae’r maes hwn o’r gyfraith yn gymhleth felly mae’n well siarad â chynghorydd am eich opsiynau bob amser.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 12, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.