Beth sydd angen i mi ei wybod?
Gall wynebu cael eich troi allan fod yn frawychus ac yn llawn straen iawn. Ceisiwch siarad â chynghorydd cyn gynted ag y gallwch. Gallant egluro pethau i chi ac efallai y byddant yn gallu eich helpu i gymryd camau i gael mwy o amser i chi’ch hun neu hyd yn oed atal y troi allan.
Rhaid i’ch landlord ddilyn y camau cyfreithiol cywir i’ch troi allan o’ch cartref. Mae’r camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd yn dibynnu ar y math o gontract meddiannaeth sydd gennych a gallant olygu mynd i’r llys.
Os yw’ch landlord yn ceisio eich gorfodi allan heb ddilyn y camau cywir, efallai y byddant yn ceisio eich troi allan yn anghyfreithlon. Mae troi allan yn anghyfreithlon yn drosedd.
Gwe-sgwrs
Sgwrsiwch ag un o’n cynghorwyr gan ddefnyddio ein gwasanaeth negeseua gwib
Cefnogaeth yn agos atoch chi
Defnyddiwch ein Teclyn Chwilio i ddod o hyd i gefnogaeth yn eich ardal
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 8, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.