Beth sydd angen i mi ei wybod?
Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli’ch cartref yn y 56 diwrnod nesaf, mae’n debyg y bydd yn rhaid i dîm digartrefedd eich cyngor lleol eich helpu chi.
Does dim rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i gael help.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofynnwch am wneud cais digartrefedd.
Bydd y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa a’ch anghenion.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyngor yn rhoi cyngor i chi ac efallai y bydd yn rhaid iddynt eich helpu i atal rhag dod yn ddigartref neu eich helpu i ddod o hyd i rywle i aros.
Gwe-sgwrs
Sgwrsiwch ag un o’n cynghorwyr gan ddefnyddio ein gwasanaeth negeseua gwib
Cefnogaeth yn agos atoch chi
Defnyddiwch ein Teclyn Chwilio i ddod o hyd i gefnogaeth yn eich ardal
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 8, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.