Skip to main content

Budd-dal Tai

DIWEDDARIAD AR FUDD-DAL TAI

Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Dim ond os ydych yn bodloni un o’r amodau canlynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:

Os ydych yn cael Budd-dal Tai, byddwch yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gelwir y llythyr hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Bydd yr hysbysiad yn nodi dyddiad cau i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os na wnewch gais mewn pryd, efallai y byddwch yn derbyn llai o Gredyd Cynhwysol.

I gael rhagor o wybodaeth am symud i Gredyd Cynhwysol, ewch i wefan Cyngor ar Phopeth.

Os ydych chi’n rhentu’ch cartref ac mae gennych chi incwm isel, neu’n cael budd-daliadau lles, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Budd-dal Tai.

Os ydych chi’n rhentu’ch cartref gan landlord preifat, bydd Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o Fudd-dal Tai y gallwch chi ei dderbyn.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 27, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.