Mae Cynllun Tai Personol (PHP) yn ddogfen sy’n nodi’r camau sydd i’w cymryd i helpu i’ch atal rhag dod yn ddigartref neu helpu i sicrhau llety i chi.
Pryd fydda i’n cael Cynllun Tai Personol?
Os yw’r cyngor wedi penderfynu ei fod yn mynd i roi help i chi i atal eich digartrefedd neu help i sicrhau llety, yna dylai siarad â chi a chytuno pa ‘gamau rhesymol’ sydd angen eu cymryd i’ch helpu. Er nad oes rhaid iddynt wneud hynny, bydd llawer o gynghorau yn ysgrifennu’r camau hyn i lawr mewn Cynllun Tai Personol.
Dylai’r hyn sy’n mynd i mewn i Gynllun Tai Personol gael ei gytuno rhyngoch chi a’r cyngor. Dylai gynnwys y camau yr ydych wedi cytuno y byddant yn cael eu cymryd gan:
- y cyngor
- chi, neu aelod o’ch aelwyd
- rhywun arall.
Dylai’r cyngor drafod unrhyw gynllun gyda chi a sicrhau eich bod yn deall yr hyn y mae’n mynd i’w wneud a pha gamau yr ydych wedi cytuno i’w cymryd eich hun. Os nad ydych chi’n deall rhywbeth yn eich cynllun, neu os ydych chi’n meddwl na allwch chi wneud rhywbeth yn y cynllun, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth y cyngor.
Dylai’r cynllun ei gwneud yn glir i chi beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am gopi o unrhyw Gynllun Tai Personol sydd wedi’i ysgrifennu fel y gallwch weld beth sydd wedi’i gytuno. Os nad oes gennych Gynllun Tai Personol gofynnwch i’r cyngor ysgrifennu’r camau y cytunwyd arnynt a rhoi copi i chi.
Os ydych chi’n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, efallai bod gennych chi gynllun gofal a chymorth eisoes a dylai’r cyngor weithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod y ddau gynllun yn gysylltiedig.
Beth sy’n digwydd ar ôl i Gynllun Tai Personol gael ei wneud?
Unwaith y bydd Cynllun Tai Personol wedi’i lunio, dylech chi a’r cyngor gymryd yr holl gamau y cytunwyd arnynt ar y cynllun.
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn mynd i unrhyw apwyntiadau a drefnir ar eich cyfer a chymryd unrhyw gamau yr ydych wedi cytuno i’w gwneud ar y cynllun.
Os na allwch wneud rhywbeth sydd ar y cynllun, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y cyngor ar unwaith ac yn esbonio pam na allwch ei wneud.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft rydych chi’n dod yn ddigartref neu os bydd eich anghenion iechyd yn newid, yna mae’n rhaid adolygu eich Cynllun Tai Personol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau fel y gallant edrych ar y cynllun eto gyda chi, cytuno ar gamau gweithredu newydd neu ychwanegu at y camau gweithredu presennol sydd i’w cymryd.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 27, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.