Skip to main content

Llety brys

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, peidiwch â gor-bryderu. Efallai y bydd opsiynau ar gael i chi.

Cyngor tai brys

Os oes angen help arnoch ar unwaith, ffoniwch linell gymorth Shelter Cymru ar 08000 495 495 i siarad â chynghorydd tai arbenigol. Gallant:

  • egluro eich hawliau
  • dweud wrthych beth yw eich opsiynau
  • cysylltu â darparwyr llety, fel hosteli, ar eich rhan.

Os oes gennych chi fwy o amser fe allech chi ddefnyddio ein gwe-sgwrs neu ymweld â chyngor yn eich ardal chi i ddod o hyd i gymhorthfa gyngor Shelter Cymru leol.

Efallai y bydd y lleoedd canlynol hefyd yn gallu helpu:

Eich cyngor lleol:

  • adran tai (cyngor ar dai a digartrefedd)
  • gwasanaeth cysylltiadau tenantiaeth (cyngor ar faterion rhwng landlordiaid a deiliaid contract)
  • gwasanaethau cymdeithasol (cymorth i rai plant a phobl ifanc, pobl hŷn a rhai pobl â phroblemau iechyd)
  • Heddlu (cyngor mewn sefyllfaoedd brys e.e. pobl yn wynebu trais)
  • Cymorth i Ferched Cymru (cyngor i fenywod sy’n profi trais gan bartner)
  • Am fanylion asiantaethau eraill gweler ein tudalen Cysylltiadau Defnyddiol.

Tai brys gan y cyngor

Mae’n rhaid i gynghorau lleol roi cyngor a chymorth i bobl sy’n ddigartref neu a fydd yn ddigartref yn fuan. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu tai brys i chi, megis hostel, lloches neu Wely a Brecwast.

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol a gwneud cais digartrefedd. Dylai pob cyngor weithredu gwasanaeth 24 awr y dydd i bobl mewn sefyllfaoedd brys.

Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yma.

Gweler ein hadran Cymorth gan y Cyngor am ragor o wybodaeth.

Llochesi nos a hosteli

Os ydych yn ddigartref, gallai lloches nos neu hostel ddarparu gwely am y noson. Fel arfer maent yn cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai, elusennau, neu’r cyngor lleol.

Llochesau

Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n dod yn ddigartref oherwydd trais neu fygythiadau yn gallu cael lle mewn lloches. Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn eich ardal eich hun, efallai y gallwch chi fynd i loches mewn rhan arall o’r DU.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am lochesau o linell gymorth gyfrinachol 24 awr Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru ar 0808 80 10 800.

Llety Gwely a Brecwast

Os oes angen lle arnoch am y noson, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i le i aros mewn llety gwely a brecwast. Gallwch gael manylion am lety gwely a brecwast rhad yn eich ardal gan y cyngor neu ganolfan gynghori.

Aros gyda ffrindiau

Os ydych chi’n ddigartref ac angen lle i aros ar unwaith, gallai aros gyda ffrindiau fod yn ateb da am gyfnod byr.

Ni ddylai aros gyda ffrindiau olygu eich bod wedi dod o hyd i gartref. Gallech gael eich ystyried yn ddigartref o hyd ac efallai y bydd gennych hawl o hyd i help gan y cyngor.

Mae rhai pethau pwysig y dylech chi feddwl amdanyn nhw cyn i chi symud i mewn gyda ffrindiau. Cymerwch olwg ar ein tudalennau ar rannu ac isosod am ragor o wybodaeth.

Cysgu ar y stryd

Gall cysgu ar y stryd fod yn beryglus a dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid ei wneud, pan nad oes opsiwn arall ar gael.

Mae’n bwysig ceisio cadw’n ddiogel ar y strydoedd – edrychwch ar ein taflen ffeithiau Cadw’n ddiogel ar y strydoedd am rai syniadau i’ch helpu.

Ydych chi o dan 25?

Os ydych o dan 25, edrychwch ar ein tudalen Cymorth Argyfwng, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 26, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.