Mae gan gynghorau lleol ddyletswyddau cyfreithiol tuag at bobl ddigartref. Os byddwch yn cysylltu â’r cyngor a’ch bod yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf efallai y bydd yn rhaid i’r cyngor:
- rhoi cyngor a chymorth gyda’ch tai
- darparu llety brys i chi
- eich helpu i gadw eich cartref
- eich helpu i ddod o hyd i gartref
- darparu cartref i chi.
Mae pa gymorth a roddir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Nid yw gwneud cais fel rhywun digartref yr un peth â rhoi eich enw ar y rhestr aros am gartref cyngor parhaol. Sicrhewch fod y person rydych yn siarad ag ef yn deall bod angen help arnoch ar unwaith oherwydd eich bod yn ddigartref.
Mae’r tudalennau yn yr adran hon yn rhoi mwy o wybodaeth am ba help y gall y cyngor ei roi i chi.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 27, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.