Skip to main content

Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli’ch cartref yn y 56 diwrnod nesaf, efallai y bydd yn rhaid i’r cyngor eich helpu. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd y cyngor yn cynnig tai brys i chi tra byddant yn penderfynu pa gymorth arall i’w roi i chi. Gelwir hyn weithiau’n llety ‘brys’ neu ‘dros dro’.

A fyddaf yn cael tai brys ar unwaith?

Mae’n rhaid i’r cyngor ddarparu tai brys i chi tra byddant yn edrych ar eich sefyllfa dim ond os oes ganddynt reswm i gredu y gallech fod:

Mae gan bob un o’r termau hyn ystyr gyfreithiol arbennig.

Nid oes rhaid i’r cyngor fod yn sicr eich bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hyn, dim ond bod ganddynt ‘reswm i gredu’ y gallech eu bodloni. Os oes gan y cyngor unrhyw amheuaeth ynghylch a ydych yn eu bodloni, dylent ddarparu tai brys tra byddant yn penderfynu pa gymorth arall i’w roi i chi. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r cyngor yn amau nad oes gennych gysylltiad lleol â’r ardal neu efallai eich bod wedi gwneud eich hun yn ddigartref yn fwriadol.

Os ydych chi’n meddwl y dylai’r cyngor fod wedi cynnig tai brys i chi ond nad ydynt chi wedi gwneud hynny, yna ceisiwch gymorth ar unwaith.

Beth yw tai brys a gynigir gan y cyngor?

Mae’r math o dai brys a ddarperir yn amrywio o gyngor i gyngor a gallai fod yn hostel, lloches, Gwely a Brecwast neu hyd yn oed fflat sy’n eiddo i landlord preifat.

Dylai’r tai brys fod yn addas i chi a’ch aelwyd. Wrth benderfynu beth sy’n addas, dylai’r cyngor ystyried eich amgylchiadau chi a holl aelodau’ch aelwyd, gan gynnwys:

  • pa mor hir rydych chi’n debygol o fod yno
  • faint o rent y gallwch chi ei fforddio
  • cyflwr a maint y llety
  • ble mae’r llety
  • unrhyw anghenion iechyd a allai fod gennych
  • ffactorau cymdeithasol (megis a oes angen i chi fod yn agos at wasanaethau cymorth, teulu neu ysgolion arbennig).

Dylai cynghorau gynnig llety Gwely a Brecwast fel dewis olaf a dim ond ar gyfer arhosiad tymor byr iawn. Os yw’r cyngor yn cynnig Gwely a Brecwast i chi ar gyfer llety brys, gwiriwch y byddwch chi’n gallu defnyddio’r ystafell yn ystod y dydd ac y bydd gennych chi rywle i goginio pryd o fwyd. Gofynnwch pa mor hir y byddwch chi’n debygol o fod yno a gofynnwch i’r cyngor eich symud i rywle mwy addas cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, neu’n deulu gyda phlant dibynnol neu’n feichiog, dim ond mewn argyfwng y dylech chi gael eich rhoi mewn llety Gwely a Brecwast, ac ni ddylech orfod aros yno am fwy na chwe wythnos.

Os cewch gynnig lle nad ydych chi’n meddwl sy’n addas, dylech ddweud wrth y cyngor pam nad ydych chi’n meddwl ei fod yn addas. Os nad yw’r cyngor yn cynnig unrhyw beth arall i chi, ceisiwch gymorth. Efallai y bydd cynghorydd yn gallu eich helpu i argyhoeddi’r cyngor y dylech chi gael cynnig rhywbeth mwy addas ar gyfer eich anghenion.

Am ragor o gyngor ynghylch addasrwydd llety a gynigir gan y cyngor, cliciwch yma.

A allaf ddewis ‘aros yn fy lle’ yn fy llety presennol yn lle?

Yn lle symud i lety brys, efallai y byddai’n well gennych aros lle rydych chi am gyfnod dros dro tra bod y cyngor yn penderfynu pa gymorth arall i’w roi i chi. Gallai hyn fod, er enghraifft, cysgu ar soffa gyda ffrindiau, neu aros gyda theulu.

I wneud hyn bydd angen i chi gael cytundeb y cyngor a sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â nhw i wirio eu bod nhw’n dal i ddelio â’ch cais. Dylai’r cyngor eich trin fel ‘digartref gartref’.

Efallai y bydd y cyngor yn penderfynu nad ydych chi’n ddigartref yn gyfreithiol os ydyn nhw’n meddwl y gallwch chi fyw gyda ffrindiau neu deulu yn y tymor hwy.

A fydd yn rhaid i mi dalu?

Bydd. Bydd yn rhaid i chi dalu rhent ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau eraill am bethau fel prydau bwyd neu wasanaethau glanhau. Rhaid i’r rhent a’r taliadau fod yn rhesymol a dylai’r cyngor ystyried a ydynt yn fforddiadwy i chi cyn iddyn nhw ei gynnig i chi.

Os ydych chi ar fudd-daliadau neu incwm isel efallai y byddwch chi’n gymwys i gael budd-dal tai neu gostau tai credyd cyffredinol ond efallai na fydd hyn yn talu’ch holl rent ac ni fydd yn talu unrhyw daliadau eraill.

Am ba hyd y gallaf aros?

Dylech allu aros yn y tai brys nes bod y cyngor yn gwneud penderfyniad ynghylch a allant roi mwy o gymorth i chi. Gall y cyngor benderfynu:

  • bod yn rhaid iddyn nhw eich helpu i ddod o hyd i gartref (“y ddyletswydd i helpu i sicrhau llety”). Os bydd hyn yn digwydd, mae’n debyg y byddwch yn gallu aros yn y tai brys tra bod y cyngor yn cymryd camau rhesymol i’ch helpu i ddod o hyd i gartref arall
  • nad oes gennych hawl i gymorth pellach. Os bydd hyn yn digwydd, dylai’r cyngor anfon ‘llythyr hysbysiad diwedd dyletswydd’ atoch. Bydd gennych yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwn ond rhaid i chi weithredu’n gyflym a gofyn am hyn o fewn 21 diwrnod. Gallwch ofyn i’r cyngor adael i chi aros yn y tai brys tra bod yr adolygiad yn cael ei gynnal.

Os gofynnir i chi adael tai brys, yna ceisiwch gymorth yn gyflym.

Beth sy’n digwydd i’m dodrefn a’m heiddo?

Os yw’r cyngor yn rhoi tai brys i chi

mae’n rhaid iddyn nhw hefyd gymryd camau rhesymol i amddiffyn eich eiddo. Dim ond os yw eich eiddo mewn perygl ac na allwch wneud trefniadau i’w amddiffyn eich hun y mae hyn yn berthnasol. Gallai hyn fod oherwydd:

  • Ni allwch fforddio trefnu symud na storio
  • Rydych chi’n rhy sâl i drefnu unrhyw beth.

Bydd y rhan fwyaf o gynghorau yn rhoi nwyddau eich cartref (fel dodrefn) mewn storfa. Rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn ddiogel nes eich bod chi’n gallu eu hamddiffyn eich hun neu nad oes gan y cyngor gyfrifoldeb mwyach i ddarparu llety i chi. Mae’n debyg y bydd y cyngor yn codi tâl arnoch chi am ofalu am eich eiddo.

Am ragor o gyngor ar amddiffyn eich eiddo, cliciwch yma.

Beth sy’n digwydd os gwrthodaf gynnig o dai brys neu os penderfynaf adael tai brys a gynigiwyd i mi?

Os:

  • gwrthodwch gynnig o dai brys y mae’r cyngor yn ei ystyried yn addas i chi, neu
  • Eich bod yn penderfynu gadael tai brys y mae’r cyngor yn ei ystyried yn addas i chi,
  • gall y cyngor benderfynu peidio â chynnig unrhyw beth arall i chi tra byddant yn parhau i wneud ymholiadau a gweithio allan pa gymorth arall y gallant ei roi i chi.

Os nad ydych chi’n credu bod y tai brys yn addas, neu, os oes gennych chi broblemau yn y llety (fel cael eich aflonyddu gan breswylwyr eraill) dylech chi hysbysu’r cyngor a chael cymorth cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd cynghorydd yn gallu eich helpu i argyhoeddi’r cyngor y dylech chi gael cynnig rhywbeth sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion.

Ble alla i gael cymorth?

Gall cael eich rhoi mewn llety brys dros dro eich gadael chi’n teimlo’n ynysig ac o dan straen. Rydym wedi llunio ychydig o awgrymiadau a all eich cynorthwyo yn ein Canllaw Goroesi Llety Dros Dro:

Canllaw Goroesi TA – SAESNEG

Canllaw Goroesi TA – CYM

Gallwch hefyd gael cyngor gan gynghorwyr tai arbenigol Shelter Cymru drwy ffonio ein llinell gymorth neu ddefnyddio ein gwesgwrsio.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 16, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.