Mynd i weld
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i le rydych chi’n ei hoffi, ewch i edrych arno’n iawn cyn llofnodi unrhyw gontract meddiannaeth. Os gallwch chi, ewch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo gyda chi.
Argraffwch a defnyddiwch ein rhestr wirio Gweld Eiddo i’ch helpu i feddwl am yr hyn y dylech chi ofyn amdano a’i gadw mewn cof.
Gweithiwch allan faint fydd yn ei gostio
Rydym wedi llunio rhestr o bethau y gallech fod angen eu talu.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofyn i’r landlord neu’r asiant ddweud wrthych chi am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â rhentu’r lle, fel rhent, biliau, treth y cyngor ac unrhyw flaendal.
Penderfynwch a allwch chi fforddio hynny
Ar ôl i chi weithio allan faint fydd y lle yn ei gostio, defnyddiwch y cynlluniwr cyllideb Gwasanaeth Cynghori Ariannol am ddim hwn i weithio allan a allwch chi fforddio hynny.
Gweld a oes unrhyw help y gallwch ei gael i dalu’r biliau neu i’ch helpu i sefydlu cartref.
Gwnewch yn siŵr bod y lle’n ddiogel
Gofynnwch i wirio’r adroddiad diogelwch trydanol, y dystysgrif nwy ac unrhyw larymau mwg a larymau carbon monocsid. Gwiriwch nad oes angen unrhyw atgyweiriadau ar yr eiddo.
Edrychwch ar yr ardal leol – a fyddech chi’n teimlo’n ddiogel yn dod adref yn y nos?
Gwiriwch fod y landlord wedi’i gofrestru
Mae’n rhaid i’ch landlord fod wedi’i gofrestru yn ôl y gyfraith. Gwiriwch eu bod ar y gofrestr yma.
Arhoswch yn ddiogel
Osgowch ymweld ag eiddo neu gyfarfod â landlordiaid ar eich pen eich hun. Edrychwch ar ein Awgrymiadau Gorau ar gyfer Aros yn Ddiogel
Pethau i’w hystyried ar ôl i chi symud i’ch cartref newydd
Pan fyddwch chi wedi symud i’ch lle newydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n:
- Cymryd darlleniadau mesurydd a chysylltu â chyflenwyr cyfleustodau
- Cysylltu ag adran y dreth gyngor
- Gwneud cais am fudd-daliadau
- Dweud wrth bawb beth yw eich cyfeiriad newydd
- Glynu wrth delerau’r contract
- Talu eich rhent a’ch biliau
Cadw golwg ar eich arian fel y gallwch gyllidebu bob mis. Fel ‘na, byddwch chi’n gallu rheoli eich rhent a threuliau eraill yn well. Os oes gennych chi ffôn clyfar, efallai y byddai’n syniad da lawrlwytho ap cyllidebu.