Skip to main content

Sut i ddod o hyd i gartref rhent preifat

Chwiliwch ar-lein

Mae llawer o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai yn hysbysebu ar-lein. Mae gwefannau cenedlaethol poblogaidd yn cynnwys:

Mae’r safleoedd hyn yn bennaf yn hysbysebu eiddo sy’n cael eu gosod gan asiant gosod tai ar ran landlord. Mae’n syniad da gwirio a fydd yr asiant yn rheoli’r eiddo tra byddwch chi’n byw yno, neu a fydd y landlord yn rheoli’r eiddo’n uniongyrchol.

Mae gwefannau eraill, fel Spareroom a Gumtree, yn caniatáu i ddefnyddwyr osod hysbysebion yn uniongyrchol. Os ydych chi’n chwilio am eiddo ar y math hwn o wefan, byddwch yn ymwybodol y gallai fod gennych lai o hawliau cyfreithiol os yw’r feddiannaeth yn gytundeb lletywr neu’n gontract is-feddiannu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio’r contract cyn i chi lofnodi. Dylech hefyd wirio a yw’r eiddo wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ac a fydd deiliad trwydded Rhentu Doeth Cymru yn rheoli’r eiddo. Os yw’r hysbyseb ar gyfer lletywr, nid oes angen cofrestru a thrwyddedu’r eiddo.

Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i wefannau lleol neu safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn hysbysebu lleoedd i’w rhentu.

Defnyddiwch asiant gosod

Defnyddiwch asiantaeth gosod i’ch helpu i ddod o hyd i gartref i’w rentu. Mae’n drosedd i landlord neu asiant gosod godi’r rhan fwyaf o ffioedd ‘gweinyddu’ neu osod felly ceisiwch gymorth bob amser cyn talu unrhyw ffioedd.

Gwiriwch neu hysbysebwch yn lleol

Edrychwch mewn papurau newydd lleol, cylchgronau, ffenestri siopau a byrddau hysbysebion. Gallech hefyd osod hysbyseb eich hun.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol

Dylai gwasanaeth opsiynau tai eich cyngor lleol allu eich helpu (yn enwedig os oes angen landlord arnoch sy’n derbyn budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel).

Pa fath o le ydych chi’n chwilio amdano?

Gall tai rhent preifat amrywio’n fawr o ran ansawdd, maint, pris a gwasanaethau. Meddyliwch yn ofalus am y math o le a fydd yn addas i chi.

Mae angen i chi fod yn realistig ynglŷn â’r hyn rydych chi’n barod i’w dderbyn. Mewn rhai ardaloedd o’r wlad mae’n hawdd dod o hyd i leoedd fforddiadwy i’w rhentu ond mewn ardaloedd eraill efallai mai ychydig iawn sydd ar gael o fewn eich ystod prisiau.

Sut i ddilyn hysbyseb

Mae lleoedd preifat yn aml yn cael eu rhentu’n gyflym. Os dewch o hyd i rywle rydych chi’n ei hoffi:

  • ffoniwch y landlord neu’r asiant gosod cyn gynted â phosibl
  • gofynnwch gymaint â phosibl am yr eiddo i benderfynu a yw’n addas
  • gofynnwch i’r landlord a ydynt wedi’u cofrestru ac a oes ganddynt drwydded o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru. Os ydych chi’n delio ag asiant gosod, gofynnwch i’r asiant a oes ganddyn nhw drwydded
  • trefnwch i ymweld â’r llety cyn gynted â phosibl – cyn i chi gytuno i unrhyw beth
  • cael rhywun arall i fynd gyda chi i weld yr eiddo a rhoi gwybod i rywun arall ble rydych chi’n mynd
  • cael manylion canolwyr neu gyfeiriadau yn barod
  • byddwch yn barod i dalu blaendal dal (ond peidiwch â chario symiau mawr o arian parod a cheisiwch dderbynneb bob amser) a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gweld yr eiddo cyn trosglwyddo unrhyw arian.

Edrychwch ar ein ‘Cadw’n ddiogel wrth rentu eiddo_10 Awgrym Gorau’.

Discrimination if you have children or claim benefits

It is unlawful for a landlord or lettings agent to stop you enquiring about, viewing or renting a property simply because you have children or are on benefits.

This applies even if the landlord’s mortgage agreement says they can’t rent to households with children or claiming benefits.

However, your income can be taken into account in deciding whether you can afford to rent a property.

There are limited circumstances when a landlord or agent can refuse to rent to you if you have children or are on benefits. For example, if the landlord’s insurance policy began before 1 June 2026 and the terms of the insurance prohibit renting to people who claim benefits or have children living with them.

Letting agent can mean an individual or a ‘High Street’ letting agent – all landlords and agents must be licensed with Rent Smart Wales. See our advice page on Landlord and Letting agent licensing).

What can I do if I think I am being discriminated against?

If you think you are being discriminated against, you can make a complaint to the letting agent. For help with this, take a look at our Challenging DSS Discrimination toolkit. You can also complain about letting agents to a redress scheme. See here for more information.

Your local council’s Trading Standards department have the main responsibility for ensuring that landlords and letting agents comply with the law. You can contact Trading Standards through the Citizens Advice Consumer Service. You can also get help from one of our advisers. They can help you work out if you are being discriminated against.

Other types of discrimination

It is also unlawful for a landlord or agent to discriminate against you because of:

  • age
  • disability
  • gender reassignment
  • marriage and civil partnership
  • pregnancy and maternity
  • race
  • religion or belief
  • sex
  • sexual orientation

You can find further information about these types of discrimination on Citizen’s Advice’s discrimination and discrimination in housing advice pages. 

Beth i chwilio amdano wrth fynd i weld eiddo

Yn ystod y gweld eiddo, gwiriwch fod:

  • yr eiddo yn ddiogel
  • y gwresogi, y goleuadau a’r plymio yn gweithio
  • unrhyw ddodrefn mewn cyflwr da.

Os yw pobl eraill yn byw yno, ceisiwch gyfarfod â nhw i weld a fyddwch chi’n dod ymlaen â nhw.

Cymerwch olwg ar ein rhestr wirio Gweld eiddo am syniadau am bethau eraill y dylech chi edrych arnynt cyn penderfynu a ddylid rhentu lle.

Faint fydd pob lle yn ei gostio

Dylech ddarganfod cymaint ag y gallwch am gostau’r llety cyn i chi gytuno i symud i mewn neu lofnodi unrhyw beth. Mae hyn yn cynnwys:

  • faint yw’r rhent?
  • a yw’r rhent yn cynnwys biliau?
  • faint yw’r dreth gyngor?
  • faint yw’r biliau (yn y gaeaf ac yn yr haf)?
  • a yw’r biliau’n cael eu rhannu â phobl eraill?

Gall rhentu’n breifat fod yn ddrud.

Defnyddiwch gynlluniwr cyllideb i weithio allan a allwch chi fforddio’r llety.

Faint sy’n rhaid i chi ei dalu ymlaen llaw

Mae’n arferol gorfod talu blaendal a rhent ymlaen llaw, pan fyddwch chi’n llofnodi’r contract meddiannaeth. Fel arfer, mae landlordiaid yn gofyn am rent mis ymlaen llaw ac un mis o flaendal, er y gall fod yn fwy na hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn faint yw’r rhain cyn i chi lofnodi unrhyw beth.

Mae’r rhan fwyaf o ffioedd gosod ar gyfer rhentwyr wedi’u gwahardd yng Nghymru felly gwiriwch bob amser cyn talu unrhyw beth drosodd. Am ragor o gyngor ar ba ffioedd sydd wedi’u gwahardd, cliciwch yma.

P’un a allwch chi gael budd-dal tai neu gredyd cyffredinol

Os ydych chi ar fudd-daliadau neu os oes gennych chi incwm isel, efallai y byddwch chi’n gallu cael budd-dal tai neu gostau tai credyd cyffredinol i helpu i dalu’r rhent. Os nad yw’ch incwm yn rhy uchel, efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth hyd yn oed os ydych chi’n gweithio.

Gallwch wirio beth fyddai’r budd-dal tai mwyaf yn eich ardal trwy wirio’r lwfans tai lleol ar gyfer eich ardal. Ond cofiwch efallai na fyddwch chi’n derbyn y swm uchaf hwn os yw’ch incwm neu’ch cynilion yn rhy uchel.

P’un a oes angen cyfeiriadau arnoch chi

Yn aml, mae landlordiaid yn gofyn i ddeiliaid contract posibl ddarparu cyfeiriadau i brofi eich bod chi’n ddibynadwy ac y byddwch chi’n gallu fforddio’r rhent. Mae hyn fel arfer yn golygu darparu manylion banc a/neu lythyr gan eich cyflogwr yn cadarnhau cyflogaeth. Weithiau mae landlordiaid yn gofyn am gyfeiriadau cymeriad neu gyfeiriadau gan gyn-landlordiaid. Os ydych chi’n ymgymryd â chontract meddiannaeth am y tro cyntaf, gallai landlord dderbyn geirda gan riant neu warcheidwad.

Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwarantwr ar gyfer y rhent. Mae hyn yn fwy cyffredin i bobl ifanc. Gwarantwr yw rhywun sy’n cytuno i dalu’r rhent os na fyddwch chi’n gwneud hynny.

Pa fath o gontract meddiannaeth fyddai gennych chi

Gwiriwch bob amser pa fath o gontract meddiannaeth fydd gennych chi cyn i chi symud i mewn a gofynnwch am weld y contract.

Bydd contract meddiannaeth yn nodi’r hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gennych chi a’ch landlord yn ystod y contract. Dylech ei wirio’n ofalus cyn i chi ei lofnodi, a chael cyngor os ydych chi’n ansicr ynghylch unrhyw beth y mae’n ei ddweud.

Fel arfer mae gan ddeiliaid contractau preifat lai o hawliau na phobl sy’n rhentu gan landlordiaid cymunedol, ond mae gan bob deiliad contract rai hawliau o dan y gyfraith. Ni all eich landlord gymryd yr hawliau sylfaenol hyn i ffwrdd, waeth beth mae eich contract meddiannaeth yn ei ddweud. Rhaid i’ch landlord roi contract meddiannaeth ysgrifenedig i chi o fewn pythefnos i ddechrau’r contract, ond hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, mae gennych chi’r un hawliau cyfreithiol o hyd. Dysgwch fwy am hawliau rhentwyr preifat yma.

Mae’r rhan fwyaf o gytundebau rhentu preifat newydd yn gontractau meddiannaeth safonol. Mae contractau safonol naill ai’n gontractau safonol tymor penodol neu’n gontractau safonol cyfnodol. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau prin gallech gael math gwahanol o gytundeb rhentu, sy’n golygu y gallech fod yn feddiannwr eithriedig neu’n feddiannwr â diogelwch sylfaenol. Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o gytundeb rhentu sydd gennych, edrychwch ar ein tudalennau ar hawliau rhentwyr preifat, neu ceisiwch gymorth.

Os ydych chi o dan 25 oed, edrychwch ar ein tudalen gyngor Sefydlu eich cartref cyntaf, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 8, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.