Skip to main content

Blaendaliadau cadw

Mae blaendal cadw yn daliad i landlord neu asiant gosod eiddo i gadw eiddo. Dim ond os ydych o ddifrif am rentu’r eiddo y dylech dalu blaendal cadw.

Ni all landlord neu asiant ofyn i chi dalu blaendal cadw ar gyfer eiddo yng Nghymru oni bai eu bod yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig benodol i chi yn gyntaf, gan gynnwys manylion am yr hyn y byddai’n rhaid i chi ei dalu am y contract meddiannaeth.

Faint yw blaendal cadw?

Ni all landlord neu asiant gosod eiddo godi tâl uwch na’r hyn sy’n cyfateb i 1 wythnos o rent fel blaendal cadw.

Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi, os codir y rhent yn fisol, gallwch ddefnyddio’r cyfrifiad canlynol i gyfrifo uchafswm y blaendal cadw :

Rhent misol ÷ 4.35 = blaendal cadw uchaf.

Os ydych wedi talu unrhyw beth uwchlaw’r terfyn hwn ers 1 Medi 2019 yna dylech ofyn i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo am ad-daliad.

Ni all landlord neu asiant gosod tai godi mwy nag un blaendal cadw am eiddo. Os ydych yn rhentu gyda rhywun arall, dylai’r blaendal cadw uchaf fod yn seiliedig ar gyfanswm y rhent sy’n daladwy am yr eiddo hwnnw. Er enghraifft, os yw cyfanswm y rhent wythnosol ar gyfer yr eiddo yn £300 a rennir rhwng 3 deiliad contract, yr uchafswm y gellid gofyn iddynt ei dalu fel blaendal cadw fyddai £300 rhyngddynt. Ni ellir gofyn iddynt dalu blaendal cadw o £300 yr un.

Pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r landlord neu’r asiant gosod tai ei rhoi i mi cyn i mi dalu blaendal cadw?

Ar gyfer unrhyw flaendal cadw a gymerwyd ar neu ar ôl 28 Chwefror 2020, rhaid i landlordiaid ac asiantau roi’r wybodaeth ganlynol i chi os ydynt yn gofyn am flaendal daliannol:

  • swm y blaendal cadw
  • cyfeiriad yr eiddo
  • manylion cyswllt y landlord, a/neu asiant gosod
  • y math o gontract a pha mor hir ydyw
  • dyddiad cychwyn y contract
  • faint yw’r rhent a pha mor aml y bydd yn rhaid ei dalu (e.e.: wythnosol neu fisol)
  • swm unrhyw flaendal cadw
  • a fydd angen gwarantwr ac, os felly, pa amodau a fydd ynghlwm
  • a fyddant yn gwneud unrhyw wiriadau geirda
  • a oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch chi
  • unrhyw delerau ychwanegol neu newidiedig i’r contract arfaethedig.

Rhaid rhoi’r wybodaeth hon yn ysgrifenedig i chi. Os ydych yn cytuno, gallant anfon y wybodaeth atoch trwy e-bost. Fel arall, rhaid iddynt ei anfon atoch yn y post neu ei roi i chi yn bersonol.

Dylai’r wybodaeth hon eich helpu i benderfynu a ydych am gadw’r eiddo drwy dalu’r blaendal cadw.

Beth fydd yn digwydd os na fydd y landlord neu’r asiant gosod eiddo yn rhoi’r wybodaeth hon i mi?

Ni ddylech dalu unrhyw flaendal cadw nes i chi dderbyn y wybodaeth hon.

Os ydych yn talu blaendal cadw ac nad ydych yn cael y wybodaeth gywir, rhaid i’r landlord neu’r asiant ei dalu’n ôl i chi. Hyd nes y caiff ei dalu’n ôl ni all y landlord neu’r asiant eich troi allan gan ddefnyddio’r weithdrefn hysbysu ‘dim bai’.

Beth ddylai ddigwydd ar ôl i mi dalu blaendal cadw?

Unwaith y byddwch yn talu blaendal cadw dylai’r landlord neu’r asiant roi’r gorau i hysbysebu’r eiddo.

Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu a ydych yn ymrwymo i gontract meddiannaeth:

  • Os byddwch yn penderfynu ymrwymo i gontract meddiannaeth
  • Mae gennych 15 diwrnod ar ôl i chi dalu blaendal cadw i ymrwymo i gontract meddiannaeth. Gelwir hyn yn ‘dyddiad cau ar gyfer cytundeb’.

Gallwch gytuno ar ddyddiad cau gwahanol gyda’r landlord neu’r asiant yn ysgrifenedig.

Os byddwch yn ymrwymo i gontract meddiannaeth, dylai’r landlord naill ai:

  • dychwelyd eich blaendal cadw o fewn 7 diwrnod i ddyddiad dechrau’r contract, neu
  • ei roi tuag at flaendal sicrwydd neu’r taliad rhent cyntaf.

Os penderfynwch beidio â rhentu’r eiddo

Fel arfer gall eich landlord neu asiant gadw’r blaendal cadw os ydych naill ai:

  • penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r contract meddiannaeth, neu
  • methu â chymryd camau rhesymol i ymrwymo i gontract meddiannaeth erbyn y terfyn amser (er enghraifft, ni wnaethoch roi’r wybodaeth yr oedd ei hangen i’ch landlord er mwyn sefydlu’r contract).

Os bydd y naill neu’r llall o’r pethau hyn yn digwydd, dim ond os ydynt wedi rhoi’r holl wybodaeth ofynnol am y blaendal cyn i chi ei dalu y gall y landlord neu’r asiant gadw’r blaendal cadw.

Os bydd eich landlord yn penderfynu peidio â rhentu i chi

Fel arfer dylech gael eich blaendal cadw yn ôl o fewn 7 diwrnod i’r terfyn amser ar gyfer cytundeb os yw’r landlord yn penderfynu peidio â chynnig contract i chi.

Gall y landlord neu’r asiant gadw’ch blaendal cadw dim ond os mai’r rheswm dros benderfynu peidio â rhentu i chi yw oherwydd eich bod wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol er mwyn cael y contract (er enghraifft, dywedasoch fod eich incwm yn llawer uwch nag ydyw) .

Sut i gael eich blaendal cadw yn ôl

Ysgrifennwch at y landlord neu’r asiant os yw’n cadw blaendal cadw pan na ddylent wneud hynny. Gofynnwch am eich arian yn ôl yn llawn.

Os credwch fod y landlord neu’r asiant gosod tai wedi cadw’ch blaendal cadw yn annheg, mynnwch gyngor. Efallai y gallwch ei hawlio yn ôl yn y llys sirol. Dylai eich cyngor allu rhoi cyngor ar wneud cais i’r llys sirol.

Cyfyngiad ar droi allan

Ni all eich landlord neu asiant gosod eiddo eich troi allan gan ddefnyddio’r weithdrefn troi allan ‘dim bai’ os ydynt wedi methu ag ad-dalu blaendal cadw i chi a ddylai fod wedi’i ddychwelyd.

Mae hysbysiad ‘dim bai’ yn golygu nad oes angen i’r landlord roi rheswm i’ch troi allan ac mae’n cyfeirio at hysbysiadau o dan adran 173, adran 186 neu gymal terfynu’r landlord.

I gael rhestr lawn o’r camau y mae angen i’ch landlord eu cymryd cyn y gallant gyflwyno hysbysiad ‘dim bai’, gweler ein tudalennau ar droi allan gan landlord preifat.

Mynnwch help cyn gynted ag y gallwch os ydych wedi derbyn hysbysiad.

Pa ffioedd eraill y gall landlord eu codi arnaf?

Mae’r rhan fwyaf o ffioedd gosod eraill ar gyfer deiliaid contract yng Nghymru bellach wedi’u gwahardd. Darganfyddwch yma pa ffioedd sy’n cael eu gwahardd a beth fyddwch chi’n gallu ei wneud os codir ffi waharddedig arnoch chi.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 8, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.