Skip to main content

Rhent ymlaen llaw

Mae landlordiaid preifat yn aml yn gofyn a fis o rent gael ei dalu ymlaen llaw ar ddechrau contract meddiannaeth. Mae hyn yn cynnwys eich rhent mis cyntaf.

Yn aml, gofynnir i chi hefyd dalu blaendal diogelwch.

Pryd ddylwn i dalu rhent ymlaen llaw?

Bydd llawer o landlordiaid yn gofyn am rent y cyfnod cyntaf gael ei dalu cyn i chi symud i mewn. Gelwir hyn yn ‘rhent ymlaen llaw’. Gofynnwch bob amser i’r landlord (neu’r asiantaeth) am dderbynneb i ddangos y swm rydych wedi’i dalu, a gwiriwch pryd mae’r taliad rhent nesaf yn ddyledus.

Beth os ydw i’n hawlio budd-dal tai?

Efallai y gallwch hawlio budd-dal tai neu gredyd cynhwysol (costau tai) i helpu i dalu eich rhent ond ni ellir talu hyn cyn i’ch contract ddechrau. Os bydd eich landlord yn gofyn am rent ymlaen llaw cyn i’ch contract ddechrau, bydd angen i chi ddod o hyd i’r arian hwn o rywle arall neu byddwch ar ei hôl hi gyda’ch rhent o’r dechrau. Efallai y bydd oedi hefyd tra bydd eich cais yn cael ei asesu.

Os ydych wedi gwneud cais newydd am fudd-dal tai a’ch bod wedi rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i’r cyngor gallwch ofyn am daliad ar gyfrif ar ôl 14 diwrnod. Mae hyn yn debygol o fod yn llai na’r rhent sy’n ddyledus ond efallai y bydd eich landlord yn fwy tebygol o aros os yw’n gallu gweld eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gael yr hawliad wedi’i brosesu’n gyflym.

Os ydych yn derbyn budd-dal tai, gallech wneud cais am daliadau tai yn ôl disgresiwn (DHP) am gymorth gyda rhent ymlaen llaw. Mater i bob cyngor yw penderfynu a ddylent roi DHP i chi a dim ond os gallwch ddangos na allwch fforddio’r rhent ymlaen llaw eich hun y dyfernir un i chi. Bydd y Cyngor yn disgwyl i chi roi digon o wybodaeth iddynt am eich amgylchiadau ariannol fel y gallant asesu a ddylent eich helpu.

Trefnu benthyciadau i helpu gyda rhent ymlaen llaw

Os na allwch fforddio talu rhent ymlaen llaw a’ch bod ar fudd-daliadau penodol efallai y gallwch hawlio benthyciad cyllidebu o’r gronfa gymdeithasol i’ch helpu i dalu’r gost. Os cewch fenthyciad cyllidebu bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl ond mae’r benthyciad yn ddi-log felly dim ond yr hyn rydych chi’n ei fenthyca y mae’n rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Bydd eich siawns o gael benthyciad a faint y gallech ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Ni fyddwch yn cael benthyciad os na fyddwch yn gallu ei ad-dalu. Os ydych eisoes wedi benthyca o’r gronfa gymdeithasol a heb dalu’n ôl yr hyn a fenthycwyd gennych y tro diwethaf, gallai effeithio ar yr hyn y gallwch ei gael nawr.

Blaendal cyllidebu i helpu gyda rhent ymlaen llaw

Os ydych wedi bod yn derbyn credyd cynhwysol am 6 mis neu fwy efallai y gallwch gael blaenswm cyllidebu i’ch helpu i dalu eich rhent ymlaen llaw.

Mae blaenswm cyllidebu yn fenthyciad di-log i bobl sy’n derbyn credyd cynhwysol i helpu gyda threuliau untro neu anrhagweladwy. Rydych yn ei ad-dalu drwy ddidyniadau o’ch taliadau credyd cynhwysol misol.

I wneud cais am flaenswm cyllidebu cysylltwch â’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am flaensymiau cyllidebu gweler y wefan cyngor ar bopeth.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 28, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.