Skip to main content

Cymorth i brynu eitemau hanfodol

Os nad oes gennych chi arian ar gyfer pethau hanfodol fel bwyd, gwely neu oergell, darganfyddwch yma lle gallwch chi droi am help.

Gallwch hefyd edrych ar ein tudalennau cyngor ar beth i’w wneud mewn argyfwng.

Benthyciadau a grantiau

Os ydych ar fudd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad cyllidebu, blaenswm cyllidebu tymor byr neu flaendaliad credyd cynhwysol. Benthyciadau di-log yw’r rhain a gellir eu defnyddio i ledaenu cost y pethau sydd eu hangen arnoch ond na allwch eu fforddio.

Yng Nghymru gallwch hefyd wneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol am grant nad oes angen i chi ei dalu’n ôl. Am ragor o fanylion am y gronfa gweler ein tudalen arian parod mewn argyfwng.

Prosiectau dodrefn

Mewn rhai ardaloedd, mae sefydliadau lleol sy’n darparu dodrefn ail law o ansawdd da, offer sy’n destun prawf diogelwch ac eitemau eraill o’r cartref.

Mae prosiectau dodrefn yn gweithredu trwy gasglu eitemau a roddwyd gan bobl leol ac fel arfer byddant yn gallu eu danfon i’ch cartref. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu rhywbeth i dalu’r costau dan sylw ond mae’n llawer rhatach na phrynu popeth newydd. I ddod o hyd i’ch prosiect agosaf cliciwch yma.

Banciau bwyd

Mae banciau bwyd yn darparu blychau o fwyd i bobl mewn angen.

Mae rhai banciau bwyd hefyd yn cynnig pryd poeth a chyngor.

Os ydych yn byw mewn ardal wledig ac yn methu fforddio teithio i gasglu eich bocs, mae rhai banciau bwyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu am ddim.

Cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Trussell i ddod o hyd i’ch banc bwyd agosaf.

Mae angen taleb arnoch i ddefnyddio banc bwyd. Yna byddwch yn cyfnewid hwn yn y banc bwyd am werth tri diwrnod o fwyd. Gallwch gael talebau banc bwyd gan elusennau lleol, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, Cyngor ar Bopeth a chanolfannau cyngor lles eraill.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 8, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.