Beth sydd angen i mi ei wybod?
Gall rhentu eich lle eich hun fod yn gyffrous ond nid yw pethau bob amser yn rhedeg yn esmwyth. Os bydd problemau’n digwydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo ac yn cael cyngor os oes angen.
Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid yn cadw at y gyfraith ond efallai y bydd rhai’n ceisio osgoi’r rheolau. Cyn i chi ddechrau contract meddiannaeth, mae’n bwysig bod yn barod – ymchwiliwch beth yw eich hawliau fel eich bod chi’n gwybod beth i edrych amdano.
Cymerwch gamau bob amser i aros yn ddiogel wrth ddelio â’ch landlord neu rywun ar ei ran. Cymerwch sgrinlun o’n Awgrymiadau Gorau ar gyfer Cadw’n Ddiogel.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 22, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.