Skip to main content

Mynd i’r llys

Mae’r adran hon yn esbonio beth sy’n digwydd os bydd eich benthyciwr yn cychwyn achos yn y llys sirol i adfeddiannu eich cartref.

Dim ond os yw’r llys yn gwneud gorchymyn meddiant y gellir troi perchnogion tai allan, a dim ond mewn rhai amgylchiadau y byddant yn gwneud hynny.

Hyd yn oed os yw’r broses eisoes wedi dechrau, efallai nad yw’n rhy hwyr i atal yr adfeddiannu. Po gynharaf y byddwch yn cymryd camau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych a’r lleiaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu mewn costau cyfreithiol. Ceisiwch gymorth gan Shelter Cymru cyn gynted ag y gallwch.

Beth sydd raid i’m benthyciwr ei wneud i adfeddiannu fy nghartref?

Mae cymryd camau i adfeddiannu eiddo yn cynnwys nifer o gamau, a all gymryd ychydig wythnosau neu fisoedd.

Mae rheolau arbennig ynghylch y gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn ym mhob cam – os na wneir pethau’n gywir, efallai y byddwch yn gallu atal neu ohirio’r troi allan.

Ceisiwch gymorth ar unwaith a pharhewch i drafod gyda’ch benthyciwr drwy gydol y broses. Os ydych mewn ôl-ddyledion, dylech geisio talu cymaint ag y gallwch yn rheolaidd, hyd yn oed ar ôl i achos llys ddechrau.

Rhesymau dros adfeddiannu

Rhaid bod rheswm cyfreithiol dros adfeddiannu eich cartref. Y rheswm mwyaf cyffredin yw os oes gennych ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion ar fenthyciad wedi’i sicrhau arall a gymerwyd yn erbyn eich cartref.

Rheolau cyn-gweithredu

Rhaid i’ch benthyciwr ddilyn rheolau arbennig cyn mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion morgais. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dim ond cymryd camau llys fel dewis olaf ac ar ôl i opsiynau eraill beidio â gweithio
  • rhoi cyfle rhesymol i chi dalu’r ôl-ddyledion
  • rhoi manylion i chi am eich taliadau dros y 2 flynedd ddiwethaf, swm eich ôl-ddyledion, faint sydd ar ôl i’w dalu ar eich morgais a’r llog neu’r taliadau a fydd yn cael eu hychwanegu
  • eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion os oes angen
  • ystyried unrhyw gynigion a wnewch ar gyfer ad-dalu eich ôl-ddyledion morgais ac, os nad ydynt yn derbyn eich cynigion, ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith i esbonio pam.

Os nad yw’ch benthyciwr yn dilyn y rheolau hyn, efallai y byddwch yn gallu atal neu ohirio’r troi allan.

Hysbysiad gan eich benthyciwr

Os nad yw eich benthyciwr yn hapus â’ch ymateb i unrhyw lythyrau cyn-gweithredu, dylent ysgrifennu atoch eto, gan eich rhybuddio eu bod yn mynd i gychwyn achos llys. Yna gallant wneud cais i’ch llys sirol lleol am orchymyn meddiant.

Derbyn hawliad am feddiant gan y llys

Unwaith y bydd eich benthyciwr wedi cychwyn neu wedi cyhoeddi hawliad meddiant, bydd y llys yn ysgrifennu atoch yn dweud wrthych fod eich benthyciwr wedi cychwyn hawliad a phryd y cynhelir gwrandawiad. Pan glywch gan y llys, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech gael cymorth ar unwaith ynghylch beth i’w wneud nesaf a sicrhau eich bod yn ymateb i’r hawliad. Cymerwch olwg ar ein tudalen ar Baratoi ar gyfer y llys.

Y gwrandawiad

Yn y gwrandawiad, bydd y barnwr yn clywed tystiolaeth gennych chi a’ch benthyciwr cyn gwneud penderfyniad. Bydd y barnwr yn penderfynu a oes gennych unrhyw amddiffyniad i’r hawliad.

Gall y barnwr benderfynu:

  • gohirio’r achos
  • gwrthod yr achos
  • caniatáu i chi aros yn yr eiddo ar yr amod eich bod yn cadw at rai amodau, fel ad-dalu’r ôl-ddyledion mewn rhandaliadau,
  • rhoi amser i chi werthu’ch eiddo i osgoi adfeddiannu, neu
  • penderfynu y dylech gael eich troi allan.

Mae ein tudalen ar beth all y llys ei wneud? yn egluro beth mae pob un o’r rhain yn ei olygu.

Y gorchymyn llys

Os bydd y barnwr yn penderfynu y dylech gael eich troi allan, bydd y gorchymyn llys yn gosod dyddiad i chi adael. Os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad hwnnw, rhaid i’ch benthyciwr wneud cais i’r llys am warant beili. Os yw’ch benthyciwr yn gwneud cais am warant, bydd y beiliaid yn ysgrifennu i ddweud wrthych pryd y bydd y troi allan yn digwydd. Ar ddyddiad y troi allan, bydd y beili yn dod i’r eiddo ac os ydych chi’n dal yn yr eiddo, yn eich symud o’ch cartref.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 10, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.