Skip to main content

Pobl o leiafrifoedd ethnig

Mae llawer o’n cyngor yr un peth waeth beth fo’ch ethnigrwydd, ond mae rhai meysydd sy’n effeithio’n anghymesur ar Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o’i gymharu ag eraill.

Beth sydd angen i mi ei wybod?

  • Gall cael eich trin yn wahanol neu’n annheg oherwydd eich ethnigrwydd, hil neu liw croen achosi ofn a phryder
  • Mae cyfreithiau ar waith i’ch amddiffyn
  • Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich aflonyddu neu’n destun cam-drin hiliol, mae’n bwysig eich bod chi’n cael cyngor. Gallwch hefyd roi gwybod am gam-drin hiliol i’r heddlu fel trosedd casineb.
  • Cymerwch olwg ar wybodaeth Cyngor ar Bopeth Cymru am wahaniaethu mewn tai

Dydw i ddim yn teimlo’n ddiogel yn yr ardal rwy’n byw ynddi, beth alla i ei wneud?

Mae gennych chi’r hawl i deimlo’n ddiogel yn eich cartref, a’r ardal rydych chi’n byw ynddi.

Os ydych chi’n byw mewn llety rhent a ddarperir gan landlord cymunedol ac yn teimlo’n anniogel oherwydd casineb hiliol, yna dylech chi roi gwybod am hyn i’ch swyddfa dai leol.

Gallwch hefyd wneud cais digartrefedd i’ch cyngor lleol, a gwneud cais i’r rhestr aros landlordiaid cymunedol. Eglurwch y rhesymau pam eich bod yn teimlo’n anniogel. Dylai’r cyngor edrych ar eich amgylchiadau a phenderfynu a yw’r llety yn addas i chi barhau i fyw yno ai peidio.

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad y cyngor, ceisiwch gymorth ar unwaith.

Gofyn am fesurau diogelwch mewn llety rhent

Os ydych chi’n byw mewn llety rhent ac yn cael eich aflonyddu, yna gallwch ofyn i’r landlord a allant eich helpu gyda diogelwch gwell fel cloeon ffenestri, tyllau ysbïo a chadwyni drysau. Os nad yw’ch landlord yn caniatáu hyn yna ceisiwch gymorth. Yn dibynnu a oes gennych landlord cymunedol neu landlord preifat a’r math o newid rydych chi’n gofyn amdano, efallai y byddwch chi’n gallu defnyddio cyfraith cydraddoldeb i helpu i gael y newidiadau wedi’u gwneud.

Os oes gennych landlord cymunedol, gallech hefyd ofyn am drosglwyddo rhestr aros i lety arall. Bydd rhoi tystiolaeth o’r aflonyddu i’r cyngor neu’r landlord cymunedol yn ddefnyddiol.

Rwy’n ddigartref, beth ddylwn i ei wneud?

Os nad oes gennych unman i aros, dylech gysylltu ag adran dai eich cyngor lleol a gofyn am wneud cais digartrefedd. Efallai y bydd yn rhaid i’r cyngor eich helpu i ddod o hyd i lety dros dro, tra byddant yn edrych ar eich cais.

Cymerwch olwg ar ein canllaw cam wrth gam i ddarganfod beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n gwneud cais digartrefedd.

Rhaid i unrhyw lety brys neu dros dro y mae’r cyngor yn ei roi i chi fod yn addas a dylech chi deimlo’n ddiogel rhag casineb neu gam-drin hiliol.

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dweud wrth y cyngor am eich anghenion ac unrhyw bryderon sydd gennych. Os nad ydych chi’n credu bod y llety yn addas, gallwch chi ofyn i’r cyngor edrych arno eto (gelwir hyn yn ‘adolygiad‘) ond ni ddylech chi wrthod cynnig heb gael cymorth yn gyntaf. Fel arall efallai na fydd yn rhaid iddyn nhw gynnig unrhyw beth arall i chi.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad am eich pryderon gyda’r cyngor, ceisiwch fynd â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo gyda chi i unrhyw apwyntiadau.

Os ydych chi’n 25 oed neu’n iau, darllenwch fwy am sut y gall y cyngor eich helpu os ydych chi’n ddigartref yn ein hadran gyngor pwrpasol i bobl ifanc yma.

Yn y cyfamser, gallech chi ofyn i ffrind a allwch chi aros gyda nhw tra byddwch chi’n trefnu lle. Os byddwch chi’n llwyddo i aros gyda ffrind, dylech chi dal gael eich dosbarthu fel digartref.

Rwy’n credu fy mod yn cael fy aflonyddu gan fy landlord, beth alla i ei wneud?

Mae aflonyddu gan landlord yn drosedd ac mae’n anghyfreithlon i landlord eich troi allan heb ddilyn y broses gyfreithiol gywir.

Gall aflonyddu fod yn unrhyw beth y mae eich landlord yn ei wneud yn fwriadol neu’n anuniongyrchol i darfu ar eich bywyd neu i wneud i chi adael eich eiddo. Gall gynnwys:

  • torri neu gyfyngu ar gyflenwad nwy, trydan neu ddŵr
  • ymweld â’ch cartref yn rheolaidd heb rybudd
  • ymyrryd â’ch post
  • eich bygwth
  • mynd i mewn i’ch cartref pan nad ydych chi yno, heb eich caniatâd
  • dechrau gwaith atgyweirio aflonyddgar a pheidio â’i orffen
  • eich aflonyddu oherwydd eich rhyw, hil neu rywioldeb
  • gofyn cwestiynau personol i chi am eich hunaniaeth, hil neu grefydd
  • gwneud sylwadau sy’n sarhaus neu’n hiliol.

Mae camau ymarferol y gallwch eu cymryd:

  • ysgrifennu at neu e-bostio’ch landlord neu asiant gosod i ddweud wrthyn nhw am roi’r gorau i’ch aflonyddu neu’ch bygwth
  • dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon ac os bydd yn parhau y byddwch chi’n cymryd camau cyfreithiol
  • cael ffrind neu gynghorydd gyda chi pryd bynnag y bydd yn rhaid i chi ddelio â’ch landlord yn bersonol. Cysylltwch â’r heddlu os yw eich landlord yn gwneud i chi deimlo’n anniogel yn eich cartref, yn defnyddio iaith hiliol, yn eich bygwth â thrais neu’n dreisgar.

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch, ffoniwch 999 ar unwaith.

Darllenwch fwy am aflonyddu yma.

Yn aml mae’n rhaid i mi gyfieithu i oedolyn nad yw’n siarad Saesneg, pa help alla i ei gael?

Os ydych chi’n berson ifanc sy’n gweithredu fel dehonglydd i oedolyn, er enghraifft trwy fynd gyda nhw i apwyntiadau, yna efallai y byddwch chi’n cael eich dosbarthu fel gofalwr ifanc. Cymerwch olwg ar ein tudalen gyngor gofalwyr ifanc am ragor o wybodaeth.

Ble alla i gael mwy o gymorth a chefnogaeth?

Defnyddiwch ein map yma i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ymyl.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 6, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.