Gallwch. Nid yw’r ffaith eich bod yn ddigartref yn golygu na allwch hawlio Credyd Cynhwysol (CC). Cymerwch olwg ar y cyngor isod i’ch helpu.
Gwneud y cais
Cyn i chi ddechrau, edrychwch ar ein cyngor ar Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol.
Fel arfer gwneir hawliadau CC ac ymdrinnir â hwy ar-lein. Os na allwch fynd ar-lein gallwch fynd i’ch llyfrgell leol neu’ch Canolfan Gwaith i ddefnyddio’r cyfrifiaduron yno.
Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen ar-lein yn y Ganolfan Gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i aelod o staff. Gallwch hefyd ofyn am help gan Cyngor ar Bopeth o dan y gwasanaeth Cymorth i Wneud Cais.
Gall gymryd tua awr i lenwi’r ffurflen, efallai’n hirach.
Nid oes gennyf gyfeiriad, cyfeiriad e-bost na chyfrif banc
Os nad oes gennych gyfeiriad, rhowch y cyfeiriad canlynol ar y ffurflen:
- hostel y buoch yn aros ynddi ddiwethaf
- aelod o’r teulu rydych yn ymddiried ynddo, neu
- y Ganolfan Gwaith.
Bydd y ffurflen yn gofyn am gyfeiriad e-bost. Os nad oes gennych un dylai’r Ganolfan Waith eich helpu i sefydlu un, neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all wneud hynny ar eich rhan.
Fel arfer caiff taliadau CC eu gwneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Os nad oes gennych gyfrif siaradwch â’r Ganolfan Gwaith. Mae’n bosibl y gallant drefnu taliadau drwy’r Gwasanaeth Eithrio Talu. Rhoddir taliadau yn syth ar gerdyn, taleb neu neges destun. Yna byddwch yn mynd â hwnnw i’ch safle PayPoint agosaf i gasglu’r arian.
Dylai’r Ganolfan Gwaith hefyd roi help i chi agor cyfrif banc.
Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen ar-lein, defnyddiwch ffôn y Ganolfan Gwaith i drefnu eich ‘Cyfweliad Tystiolaeth Gychwynnol’. Bydd y cyfweliad hwn gyda rhywun o’r enw eich ‘anogwr gwaith’.
Ffoniwch linell gymorth y Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644 i archebu eich cyfweliad. (Cymraeg : 0800 328 1744).
Os byddwch yn anghofio archebu eich cyfweliad, dylech gael neges destun neu e-bost yn eich atgoffa i wneud hynny.
Pan ewch yn ôl am eich cyfweliad dylech fynd ag unrhyw ddogfennau sydd gennych, gan gynnwys unrhyw ddogfen adnabod. Gweler ein rhestr wirio o bethau y gallwch fynd â nhw gyda chi. Os nad oes gennych bopeth, peidiwch â phoeni – cymerwch gymaint ag sydd gennych.
Os nad oes gennych unrhyw brawf adnabod dylai’r Ganolfan Gwaith allu eich helpu o hyd. Gallant:
- gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi (os ydych wedi hawlio budd-daliadau o’r blaen)
- gofyn am lythyr gan weithiwr proffesiynol fel meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth, neu
- gwirio i weld a yw unrhyw un sy’n gweithio yn y Ganolfan Gwaith yn eich adnabod.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r cyfweliad, hyd yn oed os yw’n anodd cyrraedd yno. Os na ewch chi efallai y bydd eich cais am CC yn cael ei gau a bydd yn rhaid i chi ddechrau eto. Bydd hyn yn golygu y gallech golli allan ar arian.
Os na allwch gyrraedd y cyfweliad ffoniwch linell gymorth y Credyd Cynhwysol ar unwaith, neu mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac esboniwch pam na allwch ei gyrraedd.
Eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’
Bydd eich anogwr gwaith eisiau cytuno gyda chi beth rydych chi’n mynd i’w wneud i chwilio am waith. Gelwir hyn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.
Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu cadw at yr hyn rydych chi’n cytuno arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion a allai fod gennych, fel problemau gyda’ch iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gallu:
- eich helpu i gael rhywfaint o gefnogaeth
- lleihau faint o amser bob wythnos y dylech fod yn chwilio am waith
- newid y math o weithgareddau y disgwylir i chi eu gwneud.
Os ydych yn ddigartref, ac wrthi’n chwilio am rywle i fyw, efallai y bydd eich anogwr gwaith yn cytuno nad oes rhaid i chi chwilio am waith am gyfnod dros dro. Gallai hyn roi amser i chi chwilio am rywle i fyw.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith os ydych yn cael trafferth cadw at yr hyn rydych wedi cytuno arno. Gall eich taliadau ddod i ben os na wnewch chi hynny.
Help gyda’ch taliadau
Fel arfer bydd yn rhaid i chi aros o leiaf 5 wythnos cyn derbyn unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol.
Taliadau ymlaen llaw
Os nad oes gennych ddigon i fyw arno cyn i’ch taliad cyntaf gael ei wneud, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. I ofyn am flaenswm, bydd angen i chi siarad â’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith, gwneud cais am un yn eich dyddlyfr ar-lein, neu ffonio llinell gymorth y Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644. (Cymraeg : 0800 328 1744).
Newidiadau i’r ffordd y cewch eich talu
Fel arfer telir CC i mewn i’ch cyfrif banc unwaith y mis.
Os ydych chi’n poeni am gael eich talu’n fisol gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am Drefniant Talu Amgen (APA). Gallai hyn olygu:
- telir Credyd Cynhwysol i chi yn amlach
- bod unrhyw daliadau am eich rhent yn mynd yn syth i’ch landlord.
Cyngor ariannol neu gymorth cyllidebu
Os oes angen rhagor o help arnoch gyda’ch arian neu os ydych yn cael trafferth oherwydd y ffordd y telir eich Credyd Cynhwysol, siaradwch â’ch anogwr gwaith. Dylent allu trefnu rhywfaint o help a chefnogaeth i chi. Gelwir hyn yn ‘Gymorth Cyllidebu Personol’.
Cadw mewn cysylltiad
Mae’n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith. Y ffordd orau o wneud hyn yw mewngofnodi’n rheolaidd i’ch cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd neu wifi ewch i’ch llyfrgell leol neu’ch Canolfan Gwaith a gofynnwch am gael defnyddio’r cyfrifiaduron yno.
Help gyda thai
Os oes angen help arnoch gyda thai, gofynnwch i’ch anogwr gwaith gysylltu â’ch cyngor lleol ar eich rhan. Mae gan y cyngor ddyletswyddau cyfreithiol i bobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd ac efallai y gall eich helpu i ddod o hyd i lety.
Ble gallaf gael mwy o help?
Os oes angen mwy o help arnoch i ddatrys eich cais CC neu os ydych yn cael trafferth gydag arian, mynnwch help cyn gynted ag y gallwch. Mae yna sefydliadau a all helpu. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth i gael cymorth o dan y gwasanaeth Cymorth i Wneud Cais neu defnyddiwch y canllaw advicelocal i ddod o hyd i gynghorydd yn eich ardal.
Edrychwch ar y Canllaw hwn ar wneud cais am CC os ydych yn ddigartref.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 22, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.