Skip to main content

Ôl-ddyledion ac ymdrin â dyledion

Mae llawer o broblemau tai yn dechrau oherwydd anawsterau ariannol, felly os byddwch chi’n mynd i ddyled neu’n mynd i ôl-ddyledion, cymerwch gamau cyn gynted â phosibl.

Mae’r cynllun Lle i Anadlu yn rhoi amser i chi gael cyngor arbenigol ar ddyledion heb bwysau cymryd camau ffurfiol yn eich erbyn. I gael gwybod mwy am y cynllun a sut i wneud cais, cliciwch yma.

Os ydych chi o dan 25 oed, edrychwch ar ein tudalennau cyngor ar ôl-ddyledion rhent a materion ariannol, a luniwyd ar gyfer pobl ifanc yn unig.

Ôl-ddyledion rhent

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch rhent, neu mewn perygl o golli’ch cartref oherwydd eich bod chi’n ddyledus rhent i’ch landlord, mae angen i chi gymryd camau gweithredu.

Peidiwch ag anwybyddu’r broblem neu gallech gael eich troi allan. Cofiwch fod y rheolau ynghylch troi allan yn dibynnu ar y math o gontract meddiannaeth sydd gennych, a bod ôl-ddyledion morgais ac adfeddiannu yn cael eu trin mewn ffordd wahanol.

Cliciwch ar y wybodaeth isod i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch chi ei wneud.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 22, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.