DIWEDDARIAD AR FUDD-DAL TAI
Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Dim ond os ydych yn bodloni un o’r amodau canlynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn byw mewn llety â chymorth, llety gwarchodedig neu lety dros dro
Os ydych yn cael Budd-dal Tai, byddwch yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gelwir y llythyr hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Bydd yr hysbysiad yn nodi dyddiad cau i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os na wnewch gais mewn pryd, efallai y byddwch yn derbyn llai o Gredyd Cynhwysol.
I gael rhagor o wybodaeth am symud i Gredyd Cynhwysol, ewch i wefan Cyngor ar Phopeth.
Mae Budd-dal Tai yn fudd-dal prawf modd i helpu pobl i dalu eu rhent. Mae’r dudalen hon yn esbonio mwy am yr hyn ydyw, beth mae’n ei gwmpasu, a phwy all ei hawlio.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, bydd swm y Budd-dal Tai a gewch yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau Lwfans Tai Lleol.
Sut mae’n gweithio?
Mae Budd-dal Tai yn fudd-dal prawf modd Llywodraeth y DU, a weinyddir gan gynghorau lleol i helpu pobl i dalu eu rhent.
Fe allech chi fod yn:
- ddeiliad contract gyda landlord cymunedol
- ddeiliad contract gyda landlord preifat neu
- rhanberchennog (ond dim ond am y taliadau rhent neu ddeiliadaeth y gallwch eu hawlio).
Ni ellir defnyddio Budd-dal Tai i dalu morgais. Os oes gennych forgais, efallai y gallwch gael help i dalu’r llog drwy ryddhad llog morgais SMI os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau cymwys. Mae’r rhain yn cynnwys cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, credyd pensiwn a chredyd cynhwysol. Dilynwch y ddolen am ragor o gyngor ar gredyd cynhwysol a thalu am dai.
Mynnwch help os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys oherwydd mae’n bosibl os nad ydych chi’n gymwys ar gyfer un o’r budd-daliadau uchod ar hyn o bryd efallai y bydd eich taliadau llog morgais yn caniatáu rhyw fath o gymorth i chi pan fydd y DWP yn cyfrifo hawl.
Beth mae Budd-dal Tai yn ei gynnwys?
Gall Budd-dal Tai gwmpasu:
- eich rhent
- rhai taliadau gwasanaeth, megis cynnal a chadw mannau cymunedol neu ofalwr.
Ni all gwmpasu:
- costau gwresogi, dŵr poeth, goleuo neu goginio
- taliadau am unrhyw fwyd neu brydau a ddarperir
- taliadau am ofal a chymorth.
I gael rhagor o gyngor ar sut y gallech gael cyllid ar gyfer yr uchod, ewch i’n tudalen arian parod mewn argyfwng.
Pwy all hawlio?
Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Tai os ydych:
- ag atebolrwydd rhent
- yn bartner i’r person sydd â’r atebolrwydd rhent
- yn gorfod talu’r rhent gan fod y person sy’n atebol am y rhent i ffwrdd o’r cartref
- ag incwm isel neu
- yn derbyn budd-daliadau lles.
Os credwch y gallech fod â hawl i Fudd-dal Tai, dylech gyflwyno ffurflen hawlio. Bydd yr adran Budd-dal Tai yn rhoi gwybod i chi os bydd gennych hawl i unrhyw gymorth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Pryd ddylwn i hawlio?
Os credwch y gallech fod â hawl, dylech wneud cais cyn gynted â phosibl. Mae’n well gwneud hyn dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, oherwydd gallai llythyr fynd ar goll yn y post. Dylid anfon ffurflen hawlio atoch i chi ei chwblhau. Dylid dychwelyd y ffurflen hawlio gyda’r holl wybodaeth angenrheidiol i gefnogi eich cais o fewn un mis calendr.
Mae rhai cynghorau yn cynnig ffurflenni hawlio ar-lein.
Gellir ôl-ddyddio hawliadau am hyd at fis o’r dyddiad y gwneir cais, os yw’r Cyngor yn fodlon bod gennych reswm da pam na wnaethoch gais yn gynharach (ee profedigaeth, salwch analluog). Mae rheol wahanol ar gyfer pobl sydd o oedran pensiwn y wladwriaeth. Yn eu hachos nhw gellir ôl-ddyddio’r hawliad yn awtomatig am uchafswm o dri mis. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein tudalen ar ôl-ddyddio taliadau.
Rwy’n mynd i hawlio, a allaf roi’r gorau i dalu rhent?
Os ydych yn aros i glywed am gais am Fudd-dal Tai, rydych yn dal yn atebol i dalu eich rhent hyd yn oed os nad yw’r hawliad hwnnw’n cael ei brosesu erbyn yr amser y mae’ch rhent yn ddyledus. Mae’n well parhau i dalu rhent ar lefel y gallwch ei fforddio. Os na allwch dalu eich rhent mae’n well rhoi gwybod i’ch landlord eich bod wedi hawlio Budd-dal Tai. Gallech fod mewn perygl o gael eich troi allan os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion rhent – gweler yr adran ar droi allan am ragor o wybodaeth.
Hyd yn oed os yw’r cyngor yn cytuno eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Tai, efallai na fyddwch yn cael digon i dalu’ch rhent llawn a byddai’n rhaid i chi dalu unrhyw ddiffyg sy’n ddyledus i’ch landlord o hyd. Mae faint o Fudd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar eich incwm, maint eich cartref a’ch amgylchiadau. Efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng oherwydd y ‘dreth ystafell wely’ neu’r ‘cap budd-dal’ ac nid yw’r ffaith bod rhywun yr ydych yn ei adnabod yn cael Budd-dal Tai llawn o reidrwydd yn golygu y byddwch chithau hefyd.
Gall hawliadau gymryd amser hir i’w prosesu a gallech gael eich gadael ag ôl-ddyledion rhent enfawr. Os ydych yn dal i aros am benderfyniad ar eich cais ar ôl 14 diwrnod, a’ch bod wedi rhoi’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani, gallwch ofyn i’r adran BT ddechrau gwneud taliadau ar gyfrif/taliadau interim.
Os yn bosibl, ceisiwch ddarganfod yn fras faint o help y gallech fod â hawl iddo pan fyddwch yn cyflwyno’ch ffurflen. Os ydych yn rhentu gan gyngor neu gymdeithas tai, dylech ofyn a oes ganddynt swyddog hawliau lles a fyddai’n gallu eich helpu.
Gallech gysylltu â chynghorydd Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth, eich cyngor lleol neu ganolfan gynghori leol arall.
Sut y telir Budd-dal Tai
Os oes gennych chi landlord cymunedol, fel arfer telir eich Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’ch landlord.
Os ydych yn rhentu’n breifat, fel arfer telir Budd-dal Tai yn uniongyrchol i chi. Yna byddwch yn talu’r rhent i’ch landlord.
Gallwch ofyn i’ch Budd-dal Tai gael ei dalu i’ch landlord os ydych yn pryderu am reoli eich arian.
Ym mhob achos yn y sector preifat mae amgylchiadau pan fydd yn rhaid talu’r budd-dal i’r landlord, ee. os oes gennych ôl-ddyledion rhent o wyth wythnos neu fwy, mae didyniadau uniongyrchol yn cael eu gwneud o’ch buddion eraill i dalu ôl-ddyledion rhent, neu os ydych wedi gadael yr eiddo gan adael ôl-ddyledion rhent.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 26, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.