Skip to main content

Ôl-ddyddio Budd-dal Tai

Efallai y gallwch ofyn i’ch Budd-dal Tai gael ei ôl-ddyddio am gyfnod byr.

Rheolau ar gyfer ôl-ddyddio Budd-dal Tai

Mae’r rheolau ynghylch ôl-ddyddio Budd-dal Tai yn llym ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Hawlwyr oedran gweithio

Os ydych o oedran gweithio, gellir ôl-ddyddio eich Budd-dal Tai am hyd at fis.

Os gwnaethoch eich cais cyn 1 Ebrill 2016 gallai eich Budd-dal Tai gael ei ôl-ddyddio am hyd at chwe mis.

Bydd eich cais yn cael ei ôl-ddyddio dim ond os oes gennych chi reswm da (gweler isod) dros hawlio’n hwyr.

Hawlwyr oedran pensiwn

Os ydych o oedran pensiwn, gellir ôl-ddyddio eich Budd-dal Tai am hyd at dri mis.

NID oes rhaid i chi ddangos bod gennych reswm da dros beidio â hawlio ynghynt.

Nid yw’r rheolau ynghylch oedran pensiwn mor syml ag yr oeddent ar un adeg – mae’r oedran y gallwch ei hawlio yn amrywio yn ôl pryd y cawsoch eich geni.

Gallwch gyfrifo eich oedran pensiwn y wladwriaeth yma.

Rhesymau da dros hawlio’n hwyr

Os ydych o oedran gweithio, rhaid i chi ddangos rheswm da dros wneud cais yn hwyr. Mae’r cyngor yn edrych ar eich holl amgylchiadau yn ystod yr amser y gwnaethoch oedi cyn gwneud hawliad i benderfynu a oedd yr oedi yn rhesymol.

Efallai y bydd gennych reswm da dros hawlio’n hwyr os:

  • Rydych wedi bod yn sâl ac yn methu â rheoli eich materion personol
  • Rydych wedi profi trawma personol neu brofedigaeth
  • Rydych chi’n cael anhawster i gyfathrebu yn Saesneg ac nid oeddech yn gallu gofyn i rywun eich helpu
  • Rydych yn cael anhawster darllen neu ysgrifennu ac nid oeddech yn gallu gofyn i rywun eich helpu
  • Rhoddwyd gwybodaeth anghywir i chi gan rywun a ddylai wybod am fudd-daliadau.

Enghreifftiau yn unig yw’r rhain o bethau a allai fod wedi eich atal rhag hawlio’n gynharach. Efallai bod gennych chi resymau eraill. Fel arfer nid yw’n ddigon dweud nad oeddech wedi sylweddoli y byddai gennych hawl i fudd-dal, oni bai bod rheswm da pam na allech fod wedi ymchwilio i hyn eich hun.

Sut i wneud cais am Fudd-dal Tai wedi’i ôl-ddyddio

Os ydych am ofyn i’ch budd-dal gael ei ôl-ddyddio, bydd angen i chi ddweud hyn pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen hawlio Budd-dal Tai. Yn aml bydd cwestiwn ar y ffurflen gais yn gofyn a ydych am i’r budd-dal gael ei ôl-ddyddio ac o ba ddyddiad. Cofiwch, os ydych o oedran gweithio, dim ond am uchafswm o fis y gallwch gael y budd-dal wedi’i ôl-ddyddio.

Cynhwyswch gyda’r ffurflen gais lythyr neu ddatganiad yn egluro pam na wnaethoch gais yn gynharach. Gallwch addasu ein llythyr enghreifftiol yn ein hadran adnoddau rhad ac am ddim i wneud hyn.

Amgaewch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich cais. Mae’n well os gallwch chi ddarparu llythyr gan rywun i gefnogi’ch rhesymau dros beidio â hawlio’n gynharach. Gallai hyn fod o’ch:

  • meddyg
  • ymwelydd iechyd
  • gweithiwr cymdeithasol
  • swyddog tai, neu
  • gweithiwr cymorth.

Cadwch gopïau o’ch llythyr a’ch tystiolaeth. Dosbarthwch y llythyr eich hun os yn bosibl a chael derbynneb. Neu defnyddiwch ddanfoniad cofnodedig neu mynnwch dystysgrif postio.

Rwyf wedi cyflwyno fy nghais ôl-ddyddio – beth nesaf?

Byddwch yn derbyn llythyr yn rhoi gwybod i chi am benderfyniad yr adran Budd-dal Tai. Os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad, efallai y gallwch ofyn i’r adran Budd-dal Tai edrych arno eto. Fel arfer mae gennych fis i wneud hyn. Gallwch gael help ynglŷn â hyn gan arbenigwr budd-daliadau lles neu gael help gan Shelter Cymru.

Os na fyddwch chi’n clywed unrhyw beth, fe allech chi ffonio neu ymweld â’r adran Budd-dal Tai. Gofynnwch a ydynt wedi derbyn eich cais ac a oes ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Gwnewch nodyn o enw’r person rydych chi’n siarad ag ef, beth mae’n ei ddweud a’r dyddiad. Cadwch y nodyn hwn yn rhywle diogel.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 7, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.